Samplu data test questions

1

Hoffai Angharad brofi’r rhagdybiaethau canlynol:

1) Mae’n well gan ei chymdogion hi wylio ffilmiau serch na ffilmiau arswyd.

2) Mae’r rhan fwyaf o’i ffrindiau yn hŷn na hi.

3) Mae mwy o bobl yn y DU wedi ymweld â Chaerdydd na Chaeredin.

Ar gyfer pa ragdybiaethau y byddai angen sampl er mwyn eu profi?

2

Penderfynodd Jon gymryd sampl systematig o 25 person mewn poblogaeth o 150. Pa gyfwng ddylai ef ei ddefnyddio?

3

Hoffai Bethan gymryd sampl systematig o wyth mewn poblogaeth o 48. Pa rai o’r canlynol fyddai’n ffurfio sampl derbyniol?

4

Hoffai Marc ddewis hapsampl o 12 cwsmer sy’n dod i’w siop er mwyn cynnal ychydig o ymchwil marchnad. Pa un fyddai’r dull cywir er mwyn dewis hapsampl?

5

Hoffai Craig gymryd hapsampl o saith mewn poblogaeth o 60. Mae’n defnyddio cynhyrchydd haprifau i gael y rhifau canlynol:

018 641 820 936 418 745 016 237 351 734 671 820 365 187 635 012

Pa rifau fydd e'n eu dewis i’w sampl?

6

Hoffai Josh wybod beth yw barn y myfyrwyr yn ei ysgol am gynlluniau i fyrhau hyd y diwrnod ysgol. Mae’n penderfynu cymryd sampl wedi eu haenu o 40 allan o’r data canlynol..

Faint o fyfyrwyr y dylai ef eu dewis o bob grŵp blwyddyn?

Tabl dwy golofn ‘Grŵp blwyddyn’ a ‘Nifer y myfyrwyr’

7

Hoffai Amina wybod pa mor debygol yw pobl o brynu ei chylchgrawn newydd. Mae’n penderfynu cymryd sampl wedi eu haenu allan o boblogaeth o 300. Mae’n defnyddio’r tabl canlynol:

Tabl dwy golofn ‘Grŵp oedran’ a ‘Nifer’

Mae’n cyfrifo bod arni angen dewis 8 person o’r grŵp 16-25, 24 o’r grŵp 26-35 a 4 o’r grŵp 36-45. Faint fyddai angen iddi eu dewis o’r grŵp 46-55?

8

Mae Michelle yn bwriadu cychwyn busnes glanhau newydd. Mae’n penderfynu cymryd sampl wedi eu haenu i weld faint y byddai pobl yn fodlon ei dalu am y gwasanaeth hwn. Pa ffactor fyddai’r un pwysicaf i’w ystyried wrth lunio sampl wedi eu haenu at y diben hwn?

9

Cynhaliwyd arolwg i weld faint o bobl a oedd yn berchen ar ffôn clyfar. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r wybodaeth o’r arolwg.

Defnyddia’r data hyn i amcangyfrif faint o bobl fyddet ti’n ddisgwyl ei weld yn berchen ar ffôn clyfar mewn poblogaeth o 6,000.

Tabl dwy golofn ‘Yn berchen ar ffôn clyfar’ a ‘Ddim yn berchen ar ffôn clyfar’

10

Hoffai Millie gynnal arolwg ymhlith 25 o athletwyr i holi eu barn am chwaraeon. Allan o 100 o athletwyr, mae 54 yn wrywod a 46 yn fenywod. Mae’n cyfrifo bod angen iddi holi 14 gwryw a 12 benyw.

Mae’n sylweddoli y byddai hyn yn 26 person. Beth sydd wedi mynd o’i le yma?