Beth yw daeargryn?
Cyfnod sydyn a byr lle mae’r ddaear yn crynu’n ofnadwy
Magma yn cael ei fwrw allan o’r Ddaear
Platiau’r Ddaear yn symud gan greu tir newydd
Ar ba ffiniau platiau mae daeargrynfeydd yn digwydd?
Cadwrol a distrywiol
Adeiladol a distrywiol
Distrywiol, adeiladol a chadwrol
Beth yw'r enw ar y man yng nghramen y Ddaear lle mae’r daeargryn yn tarddu?
Uwchganolbwynt
Canolbwynt
Siocdonnau
Beth yw'r enw ar y man ar arwyneb y Ddaear yn union uwchben tarddiad y daeargryn?
Pa offer sy’n cael eu defnyddio i fesur daeargrynfeydd?
Seismomedr
Graddfa Richter
Graddfa Fujita
Pa un o’r rhain sy’n enghraifft o effaith gymdeithasol?
Adeiladau’n dod i lawr
Tirlithriad wedi’i achosi gan y daeargryn
Marwolaethau ac anafiadau i bobl
Pa un o’r rhain sy’n enghraifft o ymateb tymor byr sy’n helpu i leihau effaith daeargryn?
Atgyweirio llinellau trydan a’r cyflenwad dŵr
Codi ysbytai dros dro
Adeiladu cartrefi newydd sy’n gallu gwrthsefyll daeargryn
Sut mae’r DU wedi helpu gwledydd incwm isel (LICs) fel Nepal ar ôl trychineb naturiol?
Darparu offer arbenigol a chyngor gan arbenigwyr
Adeiladu cartrefi newydd i’r gwledydd hyn
Gwneud dim, oherwydd problem y LIC yw hi
Beth sy’n achosi tsunami fel arfer?
Seiclon trofannol
Daeargryn
Monsŵn
Beth yw prif nodweddion tsunami?
Tonnau mawr sy’n gallu teithio’n bell
Tonnau bach sy’n achosi rhywfaint o ddifrod ar yr arfordir
Tonnau canolig sy’n cael eu hachosi gan wyntoedd cryf