Beth ddylech chi fel grŵp wneud yn ystod y cyfnod paratoi ar gyfer yr arholiad rhyngweithio?
Cofnodi rhestr o ffeithiau er mwyn eu trafod yn yr arholiad
Sgriptio’r drafodaeth yn drefnus er mwyn gwybod beth mae pawb yn mynd i drafod
Manteisio ar y cyfle i fynegi barn ac i drafod y gwaith ymchwil
Wrth wrando ar aelodau’r grŵp yn siarad, mae’n syniad da i wneud beth?
Cymryd nodiadau byr
Copïo beth mae’r person yn ei ddweud
Peidio â gwrando’n astud a thrafod yr hyn rydych chi am drafod unwaith iddyn nhw orffen
Er mwyn dechrau'r drafodaeth, beth ddylech chi fel grŵp ei wneud?
Gofyn cwestiynau sy’n annog atebion byrion
Gofyn cwestiynau agored
Peidio â gofyn cwestiynau o gwbl
Beth sy'n rhaid i ti anelu at fod wrth drafod?
Hyderus, negyddol gan fwmial
Ystyfnig, ffraeth a di-flewyn-ar-dafod
Cwrtais, positif a theg
Beth sy'n bwysig bod pawb yn ei wneud?
Cytuno ac anghytuno
Cytuno
Anghytuno