Mesur o beth yw ein hôl troed ecolegol?
Yr effaith rydym yn ei chael ar yr amgylchedd
Faint o garbon rydym yn ei ddefnyddio
Nifer y cynefinoedd sy’n cael eu dinistrio
Beth yw e-wastraff?
Gwastraff nad ydym yn gallu ei ailgylchu
Gwastraff sy’n dod o ddiwydiant
Gwastraff sy’n dod o nwyddau trydanol nad ydym eu heisiau neu sydd wedi torri
Pam y mae stoc bysgod penfras Môr y Gogledd wedi lleihau?
Mae’n well gan bobl fwyta rhywbeth arall
Mae gwelliannau mewn technoleg yn golygu bod pysgotwyr yn gallu dal mwy o bysgod
Mae deddfau pysgota newydd wedi cael eu creu er mwyn annog pobl i bysgota rhagor
Ble yn y byd mae’r gêm golff yn lleihau cyflenwadau dŵr?
Cymru
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Yr Alban
Sut mae pobl yn defnyddio’r goedwig law drofannol i gynhyrchu bwyd?
Cloddio am aur yn y goedwig law
Tyfu bananas mewn rhannau helaeth o’r goedwig law
Mae ransio gwartheg er mwyn cynhyrchu biff yn digwydd yn y goedwig law
Pa un o’r rhain sy’n un o effeithiau negyddol newid hinsawdd ar riffiau cwrel trofannol?
Cannu
Trwytholchi
Tirlunio a garddio sych
Pa ddatganiad sy’n disgrifio un o effeithiau cadarnhaol newid hinsawdd yn y DU?
Bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu
Bydd lefelau uwchfioled yn cynyddu felly bydd ffermydd solar hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol
Bydd lefelau uwchfioled yn lleihau felly bydd ffermydd solar yn llai cynhyrchiol
Ble yn y byd allwch chi wylio morfilod a dysgu am ddiwylliant lleol?
Gwlad yr Iâ
Awstria
Beth yw’r enw sy’n cael ei ddefnyddio am y math o dwristiaeth lle mae pobl yn mynd ar wyliau i ardal am resymau cadwraethol ac i gefnogi’r economi leol?
Twristiaeth dorfol
Ecodwristiaeth
Twristiaeth aros yn lleol
Pa fath o strategaeth rheoli ecosystem sy’n cael ei defnyddio i amddiffyn y Barriff Mawr yn Awstralia?
Rheoli cyfrifol
Cylchfaoedd rheoli
Rheoli cynefinoedd