Pa fath o donnau seismig sy’n donnau ardraws?
Tonnau S
Tonnau P
Tonnau arwyneb
Pa fath o donnau seismig sy'n teithio arafaf?
Pa fath o don seismig sy'n achosi'r difrod mwyaf?
Drwy beth mae tonnau P yn teithio?
Hylifau yn unig
Solidau yn unig
Solidau a hylifau
Mae’r diagram isod yn dangos llwybr pa donnau seismig drwy'r Ddaear?
Beth yw enw’r rhan o'r Ddaear sydd wedi'i dangos isod?
Mantell
Craidd allanol
Cramen
Os yw tonnau P yn teithio ar fuanedd o 8 km/s a thonnau S yn teithio ar fuanedd o 3 km/s, cyfrifa'r oediad amser rhwng i donnau P ac S gyrraedd seismomedr sydd 50 km i ffwrdd.
62.5 s
166.7 s
104.2 s
Beth sy'n achosi i donnau seismig deithio mewn llwybrau crwm?
Adlewyrchiad
Plygiant
Diffreithiant
Beth sy'n digwydd o ganlyniad i bellter mwy rhwng y daeargryn a'r seismomedr?
Oediad amser hirach rhwng i donnau P a thonnau S
Oediad amser byrrach rhwng i donnau P a thonnau S
Dim effaith ar yr oediad amser rhwng tonnau P a thonnau S
Pa dystiolaeth sydd gennyn ni bod gan y Ddaear graidd hylifol?
Plygiant tonnau seismig
Ardal gysgodol y don S
Yr oediad amser rhwng tonnau P a thonnau S