Yn ôl Llyfr Genesis, sawl diwrnod gymerodd Duw i greu'r byd?
Pump
Chwech
Saith
Beth yw neges ganolog y straeon yn Genesis am y creu?
Gwnaeth Duw bopeth yn dda
Digwyddodd popeth drwy siawns
Anrhefn sy'n rheoli popeth
Beth mae Cristnogion ffwndamentalaidd yn ei feddwl am stori'r Beibl am y creu?
Mae'n ffug a ddim yn gredadwy
Mae’n drosiad ystyrlon sy'n dangos cyfrifoldeb y ddynol ryw am y creu
Gair Duw ydyw ac mae'n llythrennol wir
Pwy ddyfeisiodd ddamcaniaeth esblygiad?
Isaac Newton
Charles Dickens
Charles Darwin
Sut mae Cristnogion yn gallu dangos eu bod nhw'n ddiolchgar i Dduw?
Drwy wisgo'n drwsiadus wrth weddïo
Drwy ofalu am yr amgylchedd mae Duw wedi'i roi iddyn nhw
Drwy beidio byth â thorri coed
Sut mae Eglwys Rufain wedi ymateb i'r heriau sy'n cael eu creu gan faterion amgylcheddol?
Drwy ddweud y dylai'r ddynol ryw adael i Dduw ofalu am yr amgylchedd
Drwy ddweud bod y ddynol ryw'n dibynnu ar Dduw ond bod gan bawb gyfrifoldeb dros yr amgylchedd
Drwy ddweud y dylai'r ddynol ryw gymryd cyfrifoldeb dros rywfaint o'r amgylchedd a gadael y gweddill i Dduw
Sut mae’r Crynwyr wedi ymateb i'r hyn maen nhw'n ei alw'n 'argyfwng newid hinsawdd'?
Maen nhw'n gweld cyfle i ail-lunio cymdeithas fel cymundeb o bobl sy'n byw'n gynaliadwy fel rhan o'r byd naturiol
Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn eiddo iddyn nhw a'u bod nhw'n cael gwneud fel a fynnant
Maen nhw'n credu y bydd annog cymdeithas garbon-uchel yn mynd â nhw'n nes at doreth o heddwch, rhyddid a gwir gymuned
Sut mae llawer o Gristnogion sy'n anllythrenolwyr yn gweld y berthynas rhwng Duw ac esblygiad heddiw?
Maen nhw'n gwrthod esblygiad gan ei fod yn gwrth-ddweud y stori yn y Beibl ac yn gwadu nerth Duw
Maen nhw'n gweld Duw fel y Creawdwr sy'n defnyddio esblygiad fel y dull creu
Maen nhw'n credu bod esblygiad yn profi nad yw Duw'n bodoli
Beth yw ystyr y term llywodraeth?
Y ddyletswydd i ofalu am yr amgylchedd ar ran Duw
Bod â rheolaeth ac awdurdod dros greadau Duw
Byw bywyd mewn ffordd gynaliadwy
Beth yw ystyr y term stiwardiaeth?
Dyletswydd bodau dynol i ofalu am y byd a chynnal cydbwysedd natur
Swyddogaeth bodau dynol fel llywodraethwyr a rheolwyr y byd
Y ddyletswydd i fod yn gyfrifol am yr amgylchedd