Gan ddechrau â'r lleiaf, pa un o'r canlynol sydd yn y drefn gywir o ran maint?
Planed, galaeth, Bydysawd, cysawd yr haul
Bydysawd, galaeth, planed, cysawd yr haul
Planed, cysawd yr haul, galaeth, Bydysawd
Pa un o’r rhestri canlynol sy’n cynnwys cewri nwy yn unig?
Plwton, Ceres, Iau
Iau, Wranws, Neifion
Mercher, Neifion, Sadwrn
Pa un o’r rhestri canlynol sy’n cynnwys planedau creigiog yn unig?
Iau, Mawrth a Ceres
Y Ddaear, Sadwrn a Gwener
Y Ddaear, Mawrth a Mercher
Gan ddechrau â'r mwyaf, beth yw trefn gywir maint y planedau canlynol?
Y Ddaear, Gwener, Mawrth a Mercher
Mercher, y Ddaear, Mawrth a Gwener
Gwener, y Ddaear, Mawrth a Mercher
Mae 1 AU yn 150,000,000 km. Os yw buanedd golau yn 3 × 108 m/s faint o amser mewn eiliadau mae golau o'r Haul yn ei gymryd i gyrraedd y Ddaear?
500 eiliad
0.5 eiliad
2 eiliad
Mae'r Ddaear yn trawsyrru signal radio i Proxima Centauri sydd 4.4 blwyddyn golau oddi wrthyn ni. Pa mor hir mae'r signal radio'n ei gymryd i gyrraedd?
4.4 eiliad
4.4 mlynedd
Miloedd o flynyddoedd
Beth yw trefn gywir cylchred oes seren â màs mawr?
Cynseren, cawr coch, uwchnofa
Prif ddilyniant, gorgawr coch, uwchnofa
Cynseren, prif ddilyniant, cawr coch
Pa un o’r lliwiau canlynol sy'n dangos seren â thymheredd arwyneb isel?
Coch
Melyn
Glas
Pa un o’r elfennau canlynol sy'n cael ei chynhyrchu wrth i seren â màs mawr ddymchwel?
Haearn
Wraniwm
Carbon
Pa nwy sydd ei angen i ddechrau ymasiad niwclear mewn seren?
Heliwm
Hydrogen
Ocsigen