Yn yr Oesoedd Canol, pa sefydliad oedd yn rhedeg y rhan fwyaf o’r ysbytai ym Mhrydain?
Y llywodraeth
Yr Eglwys
Cynghorau dinas a thref
Pa fath o gleifion oedd i’w canfod amlaf mewn ysbytai canoloesol?
Pobl wael
Gwahangleifion
Y tlodion a’r henoed
Ym mha flwyddyn y sefydlwyd Ysbyty Plant Great Ormond Street?
1825
1852
1855
Yn 1854, gadawodd Florence Nightingale Brydain i nyrsio milwyr yn ystod pa ryfel?
Y Rhyfel Napoleonig
Rhyfel y Böer
Rhyfel Crimea
Pa lywodraethau oedd yn gyfrifol am ddiwygiadau lles rhwng 1906-1914?
Llywodraethau Llafur
Llywodraethau Rhyddfrydol
Llywodraethau Ceidwadol
O dan delerau Deddf Yswiriant Cenedlaethol 1911, faint oedd cyflogeion yn ei gyfrannu i’r cynllun bob wythnos?
2d
3d
4d
Beth oedd enw’r adroddiad o 1942 oedd yn cynnig creu gwasanaeth iechyd cenedlaethol am ddim?
Adroddiad Bevan
Adroddiad Beveridge
Adroddiad y Cewri
Ym mha dref yn ne Cymru y cafwyd fersiwn gynharach, leol o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y 1930au?
Tredegar
Abertawe
Pontypridd
Pwy oedd y Gweinidog Iechyd cyntaf pan grëwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948?
David Lloyd George
William Beveridge
Aneurin Bevan
Ym mha flwyddyn y cyflwynwyd tâl am bresgripsiynau, gan ddod â nod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o sicrhau triniaeth gyfan gwbl am ddim i ben?
1952
1962
1982