Beth yw enw’r pigment gwyrdd yn y cloroplastau sy’n amsugno golau?
Cytoplasm
Nodd
Cloroffyl
Pa nwy sy’n adweithydd (sy’n cael ei ddefnyddio) mewn ffotosynthesis?
Carbon monocsid
Carbon deuocsid
Ocsigen
Pa un o’r rhain sy’n ffactor gyfyngol ar ffotosynthesis?
Crynodiad ocsigen
Tymheredd
Crynodiad glwcos
Beth sy’n digwydd i’r glwcos sy’n cael ei wneud yn ystod ffotosynthesis yn y planhigyn?
Mae’n cael ei ryddhau fel sgil gynnyrch
Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer resbiradaeth
Mae’n cael ei storio ar ffurf glycogen
Beth yw enw’r cemegyn rydyn ni’n ei ddefnyddio i brofi am startsh?
Hydoddiant ïodin
Hydoddiant biwret
Adweithydd Benedict
Pa liw sy’n dynodi prawf positif am startsh gan ddefnyddio hydoddiant ïodin?
Lliw brics coch
Glas/du
Porffor
Pa gam yn y dull ar gyfer profi deilen am startsh sy’n tynnu cloroffyl o’r ddeilen?
Cam 1 – berwi mewn dŵr
Cam 2 – berwi mewn ethanol
Cam 3 – golchi’r ddeilen â dŵr
Diffyg beth, mewn rhai rhannau o ddeilen fraith, sy’n ei gwneud hi’n ddefnyddiol i ymchwilio i ffotosynthesis?
Stomata
Cellfuriau
Pam mae hi’n well gwresogi ethanol mewn bicer o ddŵr berwedig yn hytrach na dros fflam llosgydd Bunsen?
Mae ethanol yn fflamadwy
Gallai ethanol gael ei golli ar y llawr
Gallai ethanol dasgu i dy lygaid
Beth yw enw’r cemegyn sy’n cael ei ddefnyddio i amsugno carbon deuocsid o’r aer mewn arbrofion ffotosynthesis?
Sodiwm deucarbonad
Sodiwm clorid
Sodiwm hydrocsid