Yn yr Oesoedd Canol, at bwy fyddai pobl dlawd yn mynd er mwyn gosod braich oedd wedi ei thorri?
Dynes hysbys
Barbwr-llawfeddyg
Dyn hysbys
Pwy oedd y teulu o feddygon enwocaf yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol?
Meddygon Myddfai
Meddygon Margam
Meddygon Treffynnon
Yn yr Oesoedd Canol, pa enw a roddwyd i’r llyfrau planhigion oedd yn cynnwys meddyginiaethau?
Gwlybwyr
Llysieulyfrau
Clafdai
Ar ôl darganfod clorofform yn 1857, pa enw a roddwyd i’r cyfnod o 20 mlynedd pryd y cododd y gyfradd marwolaethau o ganlyniad i lawdriniaeth?
Cyfnod tywyll llawdriniaeth
Cyfnod garw llawdriniaeth
Cyfnod du llawdriniaeth
Beth ddefnyddiodd Joseph Lister er mwyn atal clwyfau rhag mynd yn septig?
Ether
Clorofform
Chwistrelliad carbolig
Yn 1901, pwy ddarganfu’r gwahanol grwpiau gwaed?
Joseph Lister
Karl Landsteiner
Howard Florey
Roedd y ffaith i Marie Curie ddarganfod ymbelydredd yn bwysig i ba ddatblygiad meddygol arall?
Pelydr X
Llawfeddygaeth aseptig
Llawfeddygaeth trawsblannu
Yn 1928, pa gemegydd ddarganfu penisilin?
Marie Curie
Ernst Chain
Alexander Fleming
Gan sylweddoli pa mor bwysig yr oedd penisilin, faint ddaru llywodraeth UDA ei fuddsoddi mewn ymchwil i benisilin yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
$50,000,000
$80,000,000
$10,000,000
Ym mha flwyddyn y bu i Dr Christiaan Barnard berfformio’r trawsblaniad calon cyntaf erioed?
1967
1976
1979