Mesuriadau bras - Canolradd ac Uwch test questions

1

Beth yw arffin uchaf 5 m pan fo’n cael ei fesur i’r m agosaf?

2

Beth yw arffin isaf 5 m pan fo’n cael ei fesur i’r m agosaf?

3

Canfydda arffin uchaf ac isaf 2,300 os yw’n cael ei gywiro i’r 100 agosaf.

4

Canfydda arffin uchaf ac isaf 12.3 cm os yw’n cael ei gywiro i’r mm agosaf.

5

Mae’r cyngor wedi cyflogi dylunwyr tirwedd i osod llwybr o amgylch y maes parcio hwn ond mae angen iddyn nhw wybod y pellter o amgylch y maes parcio. Cyfrifa’r gwerth mwyaf posib ar gyfer y perimedr os yw’r mesuriadau i gyd i’r m agosaf.

Petryal 12 m x 6 m

6

Mae dylunwyr maes parcio arall angen cyfrifo faint o fannau parcio fyddai’n gallu ffitio ar hyd AB. Os yw’r mesuriadau i’r fetr agosaf, beth yw’r pellter lleiaf y gallai AB fod?

Siâp 'L' â mesuriadau 12 m x 6 m x 12 m x 6 m a phwyntiau A a B wedi'u marcio

7

Mae hyd ciwboid yn 5 cm, ei led yn 7 cm a’i uchder yn 10 cm, i gyd yn gywir i’r cm agosaf. Beth yw cyfaint mwyaf posib y ciwboid hwn?

8

Mae Sian yn addurno ffrâm llun gyda theils sgwâr fel yn y braslun. Mae’r teils mawr yn mesur 5 cm i’r mm agosaf a’r teils bach yn 3 cm i’r mm agosaf. Beth yw hyd mwyaf posibl ochr y ffrâm?

Ffrâm llun sgwâr

9

Mae masnachwr adeiladu’n gwerthu bagiau 20 kg o gerrig mân, yn gywir i’r kg agosaf. Mae adeiladwr eisiau un dunnell fetrig o gerrig mân. Sawl bag sydd angen iddo eu harchebu i wneud yn siŵr bod ganddo’r swm cywir? Mae 1 dunnell fetrig = 1,000 kg.

10

Mae gwibiwr yn rhedeg 100 m, i’r m agosaf, mewn 10.5 s, i’r degfed rhan o eiliad agosaf. Cyfrifa gyflymder mwyaf posib y gwibiwr.