Beth ydy Theatr Mewn Addysg?
Defnyddio perfformiad fel ffordd o feithrin dysgu effeithiol
Y theatrau stiwdio sydd i’w gweld mewn ysgolion ambell waith
Gwers Gymraeg lafar
Beth ydy arwyddocâd Theatre Belgrade, Coventry, yng nghyd-destun Theatr Mewn Addysg?
Y theatr hon sydd yn berchen ar hawlfraint y term Theatr Mewn Addysg
Roedd gwaith y theatr o 1965 ymlaen mor ddylanwadol fel y lledodd ar draws y wlad
Theatr Belgrade oedd sylfaenydd Theatr Gorfforol felly does dim cysylltiad â Theatr Mewn Addysg
Pam mae’n hanfodol gwybod manylion am y gynulleidfa wrth ddyfeisio cynhyrchiad Theatr Mewn Addysg?
Mae angen i ti wybod faint o bobl sy’n dod er mwyn gosod digon o gadeiriau
Er mwyn i ti fod yn fwy difyr
Mae bob amser wedi ei hanelu at gynulleidfa benodol felly mae’n hanfodol gwybod yr ystod oedran ac unrhyw anghenion neu bryderon penodol
Pam mae’n bwysig gwybod maint a natur unrhyw leoliad perfformio y gallet ti fod yn mynd iddo?
I allu gweld faint ddylai pris y tocyn fod
Dydy hi ddim yn hanfodol gwybod union faint a natur y lleoliad
Rhaid i ti fod yn ymwybodol o’r hyn fyddi di’n gallu ei wneud o ran llwyfannu, ee mynedfeydd ac ystyriaethau iechyd a diogelwch
Beth sy’n arbennig o ddefnyddiol am Theatr Mewn Addysg wrth ysgrifennu adolygiad?
Dylai fod amcan dysgu penodol i Theatr Mewn Addysg felly byddi di’n gallu defnyddio hwn i fesur llwyddiant
Rwyt ti’n gallu ysgrifennu am y pethau doniol mae plant bach yn eu dweud am y ddrama
Caiff y ddrama ei pherfformio mewn gofod yn yr ysgol felly mae modd i ti ei disgrifio’n hawdd
Pam fyddai hi’n bwysig ymchwilio i gefndir hanesyddol cyflwyniad am yr Ail Ryfel Byd?
Bydd y gynulleidfa’n gwirio’r ffeithiau wrth edrych ar ddrama hanesyddol
Er mwyn sicrhau cywirdeb, a dylai annog rhagor o waith neu adolygu
Dylai drama bob amser roi difyrrwch o flaen ffeithiau
Pa un o’r nodweddion canlynol sy’n perthyn i Theatr Mewn Addysg?
Mae neges gref neu foeswers yn rhedeg drwyddi
Mae’r cynhyrchiad yn gwbl naturiolaidd
Mae pynciau’n cael eu trafod o un safbwynt yn unig
Sut fyddet ti’n cadw diddordeb plant 3-6 oed gyda chyflwyniad o stori anturus?
Canfod ffyrdd i’w cynnwys nhw yn y cynhyrchiad er mwyn cadw eu sylw
Cael egwyl bob 15 munud
Rhoi losin iddyn nhw i gadw eu sylw
Pa un o’r rhain na fyddai’n cael ei gynnwys yn y diffiniad ehangach o Theatr Mewn Addysg?
Addysg Bersonol Iechyd a Chymdeithasol (ABICh)
Gweithgareddau drama neu chwarae rôl at ddiben penodol
Hyfforddiant yn yr ysgol i fynd i weithio’n broffesiynol yn y theatr
Pam mae amcanion addysgu a dysgu’n bwysig wrth drafod prosiect penodol gydag ysgol neu sefydliad?
Os ydy perfformiad yn addysgol, ni ddylai fod yn hwyl
Mae angen i berfformiad Theatr Mewn Addysg gael diben addysgol i gyfiawnhau ei gynnwys mewn diwrnod ysgol
Mae trafod prosiect o flaen llaw yn beth da ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus