Hoffai Mrs Matthews weld faint o lyfrau y gall hi eu ffitio yn ei hystafell ddosbarth. Mae ganddi \({c}\) silff sy’n gallu dal 12 llyfr yr un a \({d}\) cwpwrdd sy’n gallu dal 36 llyfr yr un. Ysgrifenna fynegiad ar gyfer cyfanswm nifer y llyfrau y gall hi eu ffitio yn ei hystafell ddosbarth.