Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac Uwch test questions

1

Chwe siâp â labeli A i D. Sgwâr yw A, petryal yw B, triongl yw C, petryal yw Ch, petryal yw D, triongl yw Dd

Pa ddau siâp sy’n debyg?

2

Pum siâp â labeli 1 i 5. Petryal yw 1, sgwâr yw 2, petryal yw 3, petryal yw 4, petryal yw 5

Pa rai o’r siapiau hyn sy’n debyg?

3

Dau driongl. Sail ac uchder un yw 4 cm. Mae sail ac uchder y triongl arall yn anhysbys

Mae’r triongl hwn yn cael ei helaethu yn ôl ffactor graddfa o 1.5, beth fyddai dimensiynau’r siâp wedi ei helaethu?

4

Dau betryal â labeli 'A' a 'B'. Mae petryal A yn mesur 11 mm wrth 3 mm, mae petryal B yn mesur 5.5 mm wrth 1.5 mm

Pa ffactor graddfa a ddefnyddiwyd i drawsffurfio A i B?

5

Pa ffactor graddfa a ddefnyddir i helaethu’r siâp hwn?

Dau siâp L. Uchder un yw 35 cm a'i sail yw 20 cm, uchder y llall yw 63 cm a'i sail yw 36 cm

6

Mae gan Sue ffotograff sy’n mesur 8 cm wrth 10 cm a hoffai ei helaethu yn ôl ffactor graddfa o 1.25. Pa rai o’r canlynol yw’r dimensiynau/mesuriadau cywir ar gyfer yr helaethiad?

7

Mae cwmni’n gwneud blychau anrhegion mewn dau faint gwahanol, ond gyda siâp tebyg. Mae’r blwch anrhegion lleiaf yn mesur 4 cm wrth 5 cm wrth 6 cm fel y dangosir isod. Uchder y blwch mwyaf yw 8 cm. Beth fydd ei hyd a’i led?

Dau giwb. Un 5 wrth 4 wrth 6 cm, y llall 8 wrth ? wrth ? cm.

8

Mae siâp dau bin bathodyn yn debyg.

Mae perimedr bathodyn A yn 60 cm a’i uchder yn 5 cm.

Mae perimedr bathodyn B yn 15 cm.

Cyfrifa uchder bathodyn B.

9

Mae cwmni eisiau cynhyrchu posteri i hysbysebu cynnyrch newydd. Bydd siâp y ddau boster yn debyg. Bydd hyd poster A yn 5 m a’i arwynebedd yn 55 m2. Bydd hyd poster B yn 25 m.

Os yw’r poster yn costio 5c fesul metr sgwâr, faint fydd poster B yn ei gostio i’w gynhyrchu?

10

Dyma nodweddion dau siâp 3D tebyg:

Siâp 1: cyfaint 30 m3, arwynebedd arwyneb 62 m2

Siâp 2: cyfaint 101.25 m3

Beth yw arwynebedd arwyneb siâp 2?