Mae cadwyni ‘asgwrn cefn’ moleciwl DNA wedi’u gwneud o ba gemegau?
Siwgr a phrotein
Siwgr a ffosffad
Ffosffad a phrotein
Pa fas yw’r unig un y mae’r bas nitrogenaidd cytosin yn paru ag ef?
Adenin
Thymin
Gwanin
Pa fath o god yw’r cod DNA?
Cod dwbl
Cod tripled
Cod pedwar plyg
Beth yw’r enw ar y gwahanol fersiynau o un genyn?
Cromosomau
Basau
Alelau
Pa derm y gellid ei ddefnyddio i ddisgrifio’r pâr alelau HH?
Homosygaidd trechol
Heterosygaidd
Homosygaidd enciliol
Beth yw’r diffiniad o alel trechol?
Yr alel cryfaf
Yr alel a gaiff ei fynegi yn yr heterosygot
Yr alel gwannaf
Pa un o’r rhain sy’n ffenoteip?
Bb
Gwallt melyn
Tatŵ
Os yw genoteipiau’r rhieni yn heterosygaidd, pa ganran o’r epil fydd yn homosygaidd enciliol?
25%
50%
75%
Os yw genoteipiau’r rhieni yn heterosygaidd, pa ganran o’r epil fydd yn dangos y ffenoteip trechol?
Os yw genoteipiau’r rhieni yn heterosygaidd, pa gymhareb a ddangosir yng ngenoteipiau’r epil?
1:2:1
1:3
1:1