Newid canrannau test questions

1

Mewn sêl, mae gostyngiad o 28% ar baentiad, o’i RRP sef £240. Faint mae’n ei gostio yn y sêl?

2

Mae landlord Jodie yn gostwng ei rhent misol 1.6% o £400. Faint fydd hi’n ei arbed dros gyfnod o chwe mis?

3

Hoffai Rhys brynu camera tanddwr gyda strap garddwrn sy’n arnofio. Mae’r camera’n costio £195 a’r strap yn costio £22. Mae Cracking Cameras yn cynnig dwy fargen:

Bargen A - disgownt o 65% ar bob ategolyn pan fyddi’n prynu camera tanddwr.

Bargen B - 5% oddi ar bob camera tanddwr.

Pa fargen fyddai’n rhoi’r pris gorau iddo?

4

Mewn bar tapas, mae’r holl brisiau’n cael eu dangos cyn ychwanegu TAW 20%. Beth yw cyfanswm cost y pryd bwyd gan ddefnyddio’r fwydlen a’r eitemau a gafodd eu harchebu?

Bwydlen o far tapas, a bil ar gyfer eitemau sydd wedi'u harchebu

5

Cymerir benthyciad o £1,600 dros 4 blynedd. Am y flwyddyn gyntaf, codir llog syml o 5%, ar ôl hynny, cyfradd y llog syml yw 12% y flwyddyn. Cyfrifa swm y llog sydd wedi cronni.

6

Mae cwestiynau 6 i 9 ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch.

Ar ôl rhoi disgownt o 15%, mae pâr o esgidiau’n costio £38.25.

Faint oedden nhw’n ei gostio cyn y sêl?

7

Mae car yn cael ei werthu am £12,000. Faint o hwn sy’n TAW, lle mae TAW yn cael ei gyfrifo ar 20%?

8

Mae ffarmwr yn prynu tractor am £23,900. Mae’n dibrisio ar gyfradd o 8% o’i werth ar ddechrau bob blwyddyn. Faint yw ei werth ar ôl tair blynedd?

9

Mae cyfrif cynilo’n talu 1.4% o adlog bob mis. Os yw £500 yn cael ei fuddsoddi, faint fydd gwerth y buddsoddiad hwn ar ôl blwyddyn a hanner?

10

Hoffai gweithiwr gyfrifo faint o incwm y bydd yn ei dderbyn ar ôl treth. Ar gyfer y flwyddyn ariannol, mae’n canfod bod y lwfans personol di-dreth yn £9,500. Ar ôl hyn, mae incwm trethadwy rhwng £0 a £32,455 yn cael ei drethu ar 20%, mae incwm trethadwy rhwng £32,455 a £140,000 yn cael ei drethu ar 40% ac mae unrhyw incwm trethadwy dros £140,000 yn cael ei drethu ar 50%. Cyfrifa faint o incwm y bydd yn ei dderbyn os yw ei gyflog yn £160,000.