Beth ydy uchder sain llais?
Pa mor uchel neu dawel ydy dy lais
Y nodyn rwyt ti’n siarad arno
Pa mor uchel rwyt ti’n sefyll ar y llwyfan
Beth ydy tôn lleisiol?
Ansawdd emosiynol y llais
Ychwanegu seibiannau i’w wneud yn fwy diddorol
Beth ydy’r gair am y nodyn cerddorol rwyt ti’n siarad arno?
Dynameg
Traw
Cyseiniant
Beth ydy’r gair am lefaru ar un nodyn?
Monoton
Monodynameg
Traw gwastad
Beth ydy ynganu da?
Amrywio’r traw yn eang fel bod y llais yn ddiddorol i wrando arno
Amrywio’r cyflymder wrth siarad
Ynganu sy’n cael ei lefaru’n dda ac yn glir
Ar beth mae ynganu da yn dibynnu?
Seinio
Anadlu
Tôn lleisiol
Beth mae anadl yn ei wneud?
Mae’n cefnogi’r sain rwyt ti’n ei wneud er mwyn rhoi pŵer a chyseiniant i’r llais
Mae’n rhoi tôn meddal i’r llais
Mae’n caniatáu i ti sibrwd yn uchel ar y llwyfan
Beth ydy enw’r cyhyr o dan yr asennau sy’n cynorthwyo’r anadl?
Cyhyr y stumog
Y cyhyr craidd
Y llengig
Beth ydy cyseiniant y frest?
Pan fydd y sain yn dirgrynu yn dy frest
Pan fydd tyndra yn ardal y frest
Pan fydd y sain yn dal yn y frest ac yn methu dod allan yn iawn
Beth sy’n digwydd i’r llengig wrth i ti anadlu i mewn?
Mae’n ehangu gan orfodi’r asennau allan wrth i’r ysgyfaint lenwi
Mae’n cyfangu gan dynnu i lawr er mwyn cynyddu cyfaint y frest ac mae aer yn cael ei sugno i'r ysgyfaint
Mae’n symud i lawr ac yn gadael mwy o ofod ar gyfer cyseiniant yn y corff