Beth yw sgil?
Y gallu i wneud rhywbeth yn dda
Gallu gwneud rhywbeth yn well na neb arall
Gallu nad yw’n bosibl i rywun ei ddatblygu neu ei wella
Beth yw archwiliad sgiliau?
Proses sy’n galluogi rhywun i adnabod cryfderau a gwendidau sgiliau penodol
Cyfrif faint o sgiliau sydd gan rywun
Proses sy’n cymharu dy sgiliau di â sgiliau pobl eraill
Ym mha un o’r sefyllfaoedd hyn y byddai tîm yn fwy llwyddiannus yn ôl Dr Meredith Belbin?
Pan fydd pob aelod o’r tîm yn rhannu’r un rôl tîm
Pan fydd pob un o’r naw rôl tîm i’w gweld ymhlith aelodau’r tîm
Pan fydd aelodau’r tîm yn cyd-dynnu’n dda
Pa gam yw’r un mwyaf cynhyrchiol ym model camau tîm Bruce Tuckman?
Y cam stormio
Y cam normio
Y cam perfformio
Beth yw’r cam gorffen?
Dod â’r profiad o weithio mewn tîm i ben
Cynllunio i gyfarfod ar gyfer profiad newydd o weithio mewn tîm
Cymryd saib o’r profiad o weithio mewn tîm
Beth yw rhwydweithio cymdeithasol?
Trefnu i gyfarfod pobl wyneb yn wyneb
Gwneud cysylltiadau gyda phobl nad oes gennyt ti ddim byd yn gyffredin â nhw
Gwneud cysylltiadau gyda phobl y mae gennyt ti rywbeth yn gyffredin â nhw
Mewn cyfarfod, beth yw’r dechneg orau ar gyfer ymdrin â rhywun sydd ddim yn siarad?
Ei anwybyddu gan nad yw’n mynd i gyfrannu pa un bynnag
Ei atgoffa na fydd yn cael gwahoddiad i fod yn aelod o’r grŵp yn y dyfodol os bydd yn dal i ymddwyn fel hyn
Cael gair gydag ef y tu allan i gyfarfod er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw ei gyfraniad a’i farn
Sut ddylai cyflwyniad gael ei strwythuro?
Nid oes angen ei strwythuro
Drwy gyfeirio’n glir a llywio’r gynulleidfa drwy’r cyflwyniad
Mewn ffordd sy’n gwneud i’r gynulleidfa chwerthin ac sy’n rhoi rhywbeth i bobl feddwl amdano pan fydd y cyflwyniad wedi dod i ben
Pa un o’r enghreifftiau canlynol yw’r un mwyaf priodol wrth ddefnyddio meddalwedd cyflwyniadau?
Dylid darllen pob gair ar y sleidiau yn uchel
Dylai’r testun sydd ar y sleidiau fod yn fanwl
Dylai’r sleidiau gynnwys cyn lleied ag sy’n bosibl o eiriau
Pa un o’r enghreifftiau canlynol yw’r un mwyaf priodol wrth ddefnyddio delweddau mewn cyflwyniad?
Dylai delweddau fod wedi eu rhannu’n bicseli
Dylai’r cyflwynydd ddefnyddio cynifer o ddelweddau ag sy’n bosibl
Dylai’r cyflwynydd ddefnyddio delweddau i ategu cynnwys y cyflwyniad