Pa un o'r canlynol sy'n amod sydd ei hangen er mwyn i adlewyrchiad mewnol cyflawn golau ddigwydd ar y ffin rhwng gwydr ac aer?
Mae’r ongl drawiad yn hafal i’r ongl gritigol
Mae’r ongl drawiad yn llai na’r ongl gritigol
Mae’r ongl drawiad yn fwy na’r ongl gritigol
Beth sy'n newid i achosi i blygiant ddigwydd?
Buanedd y don
Amledd y don
Osgled y don
Pa un o'r diagramau canlynol yw'r diagram cywir o lwybr golau'n cael ei adlewyrchu'n fewnol yn gyflawn mewn ffibr optegol?
Cyfrifa'r amser mae ffibr optegol yn ei gymryd i drawsyrru signal isgoch dros bellter o 400 km (cofia fod isgoch yn rhan o'r sbectrwm electromagnetig ac yn teithio ar fuanedd o 3 × 108 m/s).
3 × 10-3 s
3 × 10-6 s
3 × 10-9 s
Beth mae endosgopeg yn ei ddefnyddio?
Pelydrau gama
Ffibrau optegol
Pelydrau-X
Sut mae tonnau'n symud pan mae adlewyrchiad mewnol cyflawn yn digwydd?
O gyfrwng llai dwys i mewn i gyfrwng mwy dwys
O gyfrwng mwy dwys i mewn i gyfrwng llai dwys
Ar hyd y normal
Pa un o'r diagramau isod sy'n dangos llwybr golau sy'n taro'r ffin rhwng gwydr ac aer ar ongl sy'n fwy na'r ongl gritigol?
Pa un o'r canlynol sy'n un o fanteision defnyddio ffibrau optegol yn hytrach na lloerenni i gyfathrebu dros bellter hir?
Mae'r signalau mewn ffibrau optegol yn dioddef llai o ymyriant
Gallwn ni ddefnyddio ffibrau optegol i gyfathrebu dros bellter hirach
Mae'r signal yn teithio'n gyflymach drwy ffibr optegol
Pa un o’r gweithdrefnau canlynol sy’n defnyddio ffibrau optegol?
Archwiliadau meddygol
Signal ffôn symudol
Trin cancr
Pan mae golau'n taro ffin gwydr i aer ar ongl sy'n fwy na'r ongl gritigol, pa fath o adlewyrchiad sy'n digwydd?
Adlewyrchiad mewnol
Adlewyrchiad mewnol cyflawn
Adlewyrchiad cyflawn