Diagramau Venn test questions

1

Diagram Venn â 2 set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif, mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif.

Pa elfennau sydd wedi eu cynnwys yn set A?

2

Diagram Venn â 2 set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif, mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif.

Pa elfennau sydd wedi eu cynnwys yn set B?

3

Diagram Venn â 2 set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif, mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif.

Pa eitemau sydd ddim yn set A na set B?

4

Gofynnwyd i 12 disgybl a oedd ganddyn nhw anifeiliaid anwes ai peidio. Y pedwar opsiwn oedd cath, ci, cwningen neu dim.

Pa ddiagram Venn sy'n dangos yr wybodaeth hon yn gywir?

Tabl â 2 golofn a 4 rhes yn dangos enwau 12 disgybl sy'n berchen ar naill ai ci, cath, cwningen, neu ddim anifail

5

Cynhaliwyd arolwg ymhlith 150 o dwristiaid i Gymru yn gofyn pa rai o’r amgueddfeydd canlynol roedden nhw wedi ymweld â nhw, os unrhyw un o gwbl:

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Roedd 27 o’r ymwelwyr wedi ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac, o’r rhain, roedd 8 wedi ymweld â phob amgueddfa.

Roedd 72 o’r bobl wedi ymweld â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Roedd 70 o’r bobl wedi ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod. Faint o bobl a oedd wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?

Diagram Venn â 3 set â labeli Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit, ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

6

Cynhaliwyd arolwg ymhlith 150 o dwristiaid i Gymru yn gofyn pa rai o’r atyniadau canlynol roedden nhw wedi ymweld â nhw, os unrhyw un o gwbl:

  • Amgueddfa Lechi Genedlaethol
  • Amgueddfa Wlân Genedlaethol
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd 27 o’r ymwelwyr wedi ymweld a’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol ac, o’r rhain, roedd 8 wedi ymweld â’r tri atyniad.

Roedd 72 person wedi ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Roedd 70 person wedi ymweld â'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol.

Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod. Faint o ymwelwyr a oedd wedi ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn unig?

Diagram Venn â 3 set â labeli Amgueddfa Lechi Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Wlân Cymru. Mae pob set yn cynnwys nifer y twristiaid sydd wedi ymweld â phob amgueddfa

7

Cynhaliwyd arolwg ymhlith 200 o dwristiaid i’r DU yn gofyn pa rai o’r mynyddoedd canlynol roedden nhw wedi ymweld â nhw, os unrhyw un o gwbl:

  • Yr Wyddfa
  • Scafell Pike
  • Ben Nevis

Roedd 6 o’r ymwelwyr wedi ymweld â’r tri mynydd.

Roedd 56 person wedi ymweld â Ben Nevis.

Roedd 70 person wedi ymweld â’r Wyddfa.

Nid oedd 53 person wedi ymweld ag unrhyw un o’r mynyddoedd.

Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod. Faint o bobl wnaeth ymweld â Scafell Pike yn unig?

Diagram Venn â 3 set â labeli Yr Wyddfa, Ben Nevis a Scafell Pike. Mae pob set yn cynnwys nifer y twristiaid sydd wedi ymweld â phob mynydd

8

Cynhaliwyd arolwg ymhlith 400 o dwristiaid i’r DU, ac o’r 400 a oedd wedi ymweld â’r ardal, dangoswyd pa rai o’r mynyddoedd canlynol roedden nhw wedi ymweld â nhw, os unrhyw un o gwbl:

  • Yr Wyddfa
  • Scafell Pike
  • Ben Nevis

Roedd 67 o’r ymwelwyr wedi ymweld â’r Wyddfa a Scafell Pike ac, o’r rhain, roedd 8 wedi ymweld â’r tri mynydd.

Roedd 23 person wedi ymweld â Ben Nevis a Scafell Pike ond nid Yr Wyddfa.

Roedd 125 person wedi ymweld â Ben Nevis.

Roedd 137 person wedi ymweld â’r Wyddfa.

Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod. Faint o ymwelwyr wnaeth ddim ymweld ag unrhyw un o’r tri mynydd?

Diagram Venn â 3 set â labeli Yr Wyddfa, Ben Nevis a Scafell Pike. Mae pob set yn cynnwys nifer y twristiaid sydd wedi ymweld â phob mynydd

9

Mae cwestiynau 9 a 10 ar gyfer haenau canolradd ac uwch

Diagram Venn â 2 set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif, mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif.

Canfydda \({A}\cap{B}\).

10

Diagram Venn â 2 set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif, mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif.

Canfydda \({A}\cup{B}\)