Fformiwlau test questions

1

Mae \({12}~{mis}\) mewn blwyddyn, felly faint sydd mewn \({5}~{mlynedd}\)?

2

Mae Sian yn gweithio i gwmni glanhau ceir. Mae’n cael cyflog o \(\pounds{14}\) y dydd a \(\pounds{5}\) am bob car mae hi’n ei lanhau y dydd. Faint fydd Sian yn ei ennill mewn diwrnod os ydy hi’n glanhau \({8}\) car?

3

Cost gwyliau ydy \(\pounds{230}\), a \(\pounds{50}\) am bob diwrnod. Pa fformiwla sy’n dangos cost y gwyliau, \({C}\) am \({d}\) diwrnod?

4

Mae cwmni'n cyfnewid arian tramor. Maen nhw'n cynnig \(\${1.5}\) am bob punt. Ar ben hyn, maen nhw’n codi \(\pounds{4.50}\). Pa fformiwla sy’n dangos y gost, \({C}\), punnoedd o brynu \(\${D}\)?

5

Hyd darn o bren ydy 150 cm. Yr hyd, \({h}\), sydd dros ben ar ôl torri \({t}~{cm}\) i ffwrdd ydy \({150}-{t}\). Cyfrifa beth ydy gwerth \({h}\) os ydy \({t}={35}\).

6

I ganfod arwynebedd, \({A}\), triongl defnyddiwn y fformiwla hon: \({A}=\frac{1}{2}{s}{u}\). Mae \({s}\) yn cynrychioli hyd sail y triongl, ac \({u}\) ydy uchder y triongl. Defnyddia’r fformiwla i ganfod \({A}\) os ydy \({s}={8}\) ac \({u}={3}\).

7

Dyma fformiwla sy'n cysylltu cyflymder cychwynnol, \({u}\), cyflymder terfynol, \({v}\), cyflymiad, \({a}\), ac amser, \({t}\): \({v}={u}+{a}{t}\). Beth ydy gwerth \({v}\) os ydy \({u}={5}\), \({a}={10}\) a \({t}={2}\)?

8

Y fformiwla ar gyfer arwynebedd petryal, \({A}\) sy'n \({10}~{cm}\) o hyd a \({b}~{cm}\) o led ydy \({A}={10}{b}\). Beth ydy gwerth \({b}\) os ydy \({A}={40}\)?

9

Y fformiwla ar gyfer cyfaint, \({C}\), ciwboid ydy \({C}={l}{b}{h}\). Mae \({l}\) yn cynrychioli hyd y ciwboid, \({b}\) ydy ei led, a \({h}\) ydy ei uchder. Beth ydy'r fformiwla ar gyfer \({b}\)?

10

Y fformiwla ar gyfer y pellter mae carreg yn disgyn o dan ddylanwad disgyrchiant ydy: \({s}=\frac{1}{2}{g}{t}^{2}\). \({s}=\) pellter, \({g}=\) cyflymiad disgyrchiant, a \({t}=\) amser. Beth ydy'r fformiwla ar gyfer \({t}\)?