Beth yw meddwl yn greadigol?
Ffordd o feddwl am syniadau newydd
Ffordd o feddwl am syniadau ar gyfer gwaith celf
Sgil nad yw’n bosibl ei ddysgu
Beth yw ystyr arloesi?
Troi syniad yn gynnyrch neu wasanaeth sy’n creu gwerth
Cael llawer o syniadau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau newydd
Dyfeisio pethau er mwyn gwneud arian
Beth yw arloesi chwyldroadol?
Newid y broses o wneud rhywbeth er mwyn lleihau costau cynhyrchu
Datblygu technoleg er mwyn gwella cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli’n barod
Creu rhywbeth cwbl newydd
Pa un o’r rhain sy’n enghraifft o arloesi esblygiadol?
Ffonau clyfar
Ffyn hunlun
Bwlb golau
Wrth feddwl am syniadau newydd, beth mae gwneud cysylltiadau yn ei olygu?
Cysylltu syniadau sy’n debyg i’w gilydd
Rhwydweithio gyda phobl eraill
Gwneud cysylltiadau rhwng syniadau sy’n wahanol i’w gilydd
Pa nodweddion sydd angen eu hystyried mewn dadansoddiad SWOT?
Cynnyrch, gwasanaethau, prosesau, pobl
Cryfderau, gwendidau, cyfleoedd, bygythiadau
Syniadau, busnesau, nwyddau, ffactorau allanol
Beth yw cymysgedd marchnata?
Disgrifiad o’r ffordd y mae pum elfen gwahanol yn mynd i ddiwallu anghenion cwsmeriaid
Cynllun hyrwyddo
Disgrifiad o’r ffordd y mae pum elfen gwahanol yn mynd i gael eu defnyddio er mwyn hysbysebu cynnyrch neu wasanaeth
Beth yw pris premiwm?
Pris sy’n cael ei osod yn uwch na phrisiau cystadleuwyr er mwyn awgrymu ansawdd
Pris sy’n cael ei osod yn is na phrisiau cystadleuwyr er mwyn cynyddu gwerthiant
Pris sy’n cael ei osod yn uchel am gyfnod byr ac yna’n cael ei ostwng
Pa un o’r canlynol sy’n enghraifft o gyfryngau digidol?
Hysbysebion teledu
Nwyddau
Hysbysebion ar-lein rhyngweithiol
Beth yw mantais defnyddio offer marchnata sy’n seiliedig ar y cyfryngau traddodiadol?
Mae’n bosibl targedu nifer bach o gwsmeriaid posibl
Mae’n bosibl targedu nifer mawr o gwsmeriaid posibl
Yn gyffredinol, maent yn ddewis rhad