Beth ydy’r peth cyntaf ddylet ti ei wneud wrth ddefnyddio sgript fel ysgogiad?
Ymchwilio ar y rhyngrwyd i gael cymaint o wybodaeth am y ddrama â phosibl
Darllen y sgript
Edrych ar restr y cast a phenderfynu pwy ddylai chwarae pa gymeriad
Beth ydy thema?
Syniad sy’n bresennol drwy gydol y gwaith
Stori’r ddrama
Prif gymeriad y ddrama
Beth sy’n digwydd mewn sesiwn tanio syniadau?
Ymchwilio i syniadau a dod â dy ganfyddiadau’n ôl i’r grŵp
Cael gwared ar syniadau sydd ddim yn gweithio
Rhannu’r holl ymatebion i’r ysgogiad, eu cofnodi a’u trafod
Beth ydy gwaith i ffwrdd o’r testun?
Gwaith byrfyfyr neu greu gwaith yn gysylltiedig â’r sgript ond heb ddefnyddio geiriau’r testun
Codi’r sgript ar ei thraed
Ychwanegu diwedd gwahanol i’r sgript
Pwy ysgrifennodd y ddrama gerdd, Blood Brothers?
Willy Russell
Russell Williams
Bertolt Brecht
Pa strategaeth ymchwiliol sy’n cynnwys holi actor yn ei rôl?
Tracio’r meddwl
Trawstorri
Cadair boeth
Pam mae monologau’n ddefnyddiol?
Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod gan bawb ddigon o linellau
Maen nhw’n esbonio teimladau a digwyddiadau i’r gynulleidfa o safbwynt cymeriad
Maen nhw’n rhoi egwyl i’r actorion eraill
Beth ydy enw’r ddrama gerdd sy’n seiliedig ar ddrama Shakespeare, Romeo and Juliet?
West Side Story
Blood Brothers
Guys and Dolls
Pa un o’r canlynol na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel ysgogiad i greu drama?
Darn o gerddoriaeth
Cerdd
Beth ydy map meddwl?
Diagram sy’n dy helpu i gofnodi syniadau mewn sesiwn tanio syniadau
Siart sy’n canolbwyntio ar gyflwr meddwl y cymeriad
Term am siart sy’n nodi cymhelliant cymeriad