Pryd wnaeth y Cynghreiriaid drechu’r Almaen Natsïaidd?
Mai 1945
Medi 1939
Mehefin 1944
Pa wlad oedd y grym economaidd mwyaf cyfoethog erbyn 1945?
Prydain
Ffrainc
America
Pa derm sy’n cyfeirio at y cyfyngiadau a roddodd y Llywodraeth ar beth allai pobl ei brynu ac ar be allai’r Llywodraeth wario?
Y Wladwriaeth Les
Adroddiad Beveridge
Llymder
Beth oedd dadfyddino?
Dod â’r lluoedd arfog yn ôl i fywyd sifilaidd
Gweithredu Adroddiad Beveridge
Y pecyn cymorth gan America i wledydd a wanhawyd gan yr Ail Ryfel Byd
Pwy oedd prif bensaer dadfyddino?
Aneurin Bevan
Ernest Bevin
Clement Atlee
Faint oedd y ddyled gwladol erbyn 1945?
£225 miliwn
£150 miliwn
£3500 miliwn
Pa ganran o ysgolion a thai Prydain a ddinistriwyd neu oedd angen eu hatgyweirio?
20 y cant
10 y cant
30 y cant
Ar ba ddyddiad y cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ar ddiwedd y rhyfel?
5 Mai 1945
5 Awst 1945
5 Gorffennaf 1945
Pa un o’r canlynol oedd yn rheswm dros fuddugoliaeth y Blaid Lafur?
Roedd y Ceidwadwyr yn cael eu beio gan lawer am Ddirwasgiad y 1930au
Roedd nifer yn ofni y byddai Adroddiad Beveridge yn arwain at fwy o wario
Roedd Churchill yn arweinydd poblogaidd yn ystod y rhyfel ac yn cynrychioli’r ysbryd ci tarw
Pwy ddaeth yn Brif Weinidog ar ôl etholiad 1945?
Winston Churchill
Clement Attlee