Beth yw hanes Morris Gleitzman, awdur y nofel Bachgen yn y môr?
Cafodd Morris Gleitzman ei eni a'i fagu yn Awstralia.
Cafodd Morris Gleitzman ei eni yn Lloegr a symudodd i Awstralia.
Cafodd Morris Gleitzman ei eni yn Awstralia a symudodd i Loegr gyda'i deulu.
Mae'r nofel yn digwydd mewn tair gwlad, ond pa dair gwlad?
Lloegr, Afghanistan ac Awstralia
Lloegr, Pacistan ac Afghanistan
Afghanistan, Pacistan ac Awstralia
Milwyr pa wlad oedd yn bresennol yn Afghanistan yn y cyfnod cyn i'r Taliban reoli'r wlad?
Iran
Yr Undeb Sofietaidd
Unol Daleithiau America
Ar ôl ymosodiad 9/11 pa wlad/wledydd benderfynodd ymosod ar Afghanistan?
UDA a Phrydain
UDA a Ffrainc
UDA
Pwy yw hoff dîm pêl-droed Jamal?
Chelsea
Manchester United
Manchester City
Pam nad yw Jamal eisiau i'w chwaer fach Bibi chwarae pêl-droed gydag e a'i ffrindiau?
Nid yw Jamal yn hoffi ei chwaer fach ac felly nid yw eisiau ei chyflwyno i'w ffrindiau.
Nid yw ffrindiau Jamal yn meddwl y dylai merched chwarae pêl-droed ac felly mae ganddo gywilydd o'i chwaer fach.
Mae'n erbyn y gyfraith i ferched chwarae pêl-droed yn Afghanistan ac mae Jamal yn ofni y byddai Bibi'n cael cosb ddifrifol petai'n cael ei dal.
Yn nhŷ pwy mae Jamal a Bibi yn cuddio?
Omar
Yusuf
Aziz
I ba wlad maen nhw'n dianc ar ôl gadael y gwersyll ffoaduriaid?
Prydain
Awstralia
Sut mae mam Jamal yn llwyddo i gael digon o arian i dalu am y daith i Awstralia?
Mae hi'n gwerthu canhwyllbren werthfawr y teulu.
Mae hi'n gwerthu ei modrwy briodas.
Mae hi'n gwerthu ei horiawr werthfawr.
Beth yw enw'r ferch y mae'r criw yn ei chyfarfod ar y llong?
Aisha
Rasha
Rashida