Beth yw ystyr agored i niwed?
Y potensial y bydd rhywle neu rywun yn cael ei niweidio gan fygythiadau penodol
Y gallu i wella sefyllfa neu amgylchiadau
Defnyddio strwythurau artiffisial i reoli prosesau naturiol
Pa ffactor ffisegol sy’n gwneud arfordir yn fwy agored i niwed?
Y math o graig (daeareg)
Dwysedd y boblogaeth
Cyfoeth gwlad neu unigolyn
Pa ffactor cymdeithasol sy’n gwneud arfordir yn fwy agored i niwed?
Tywydd eithafol
Addysg wael
Ansawdd y gwasanaethau brys
Pa ffactor economaidd sy’n gwneud arfordir yn fwy agored i niwed?
Uchder y tir
Yr adeg o’r dydd
Ansawdd y strwythurau a gwaith adeiladu
Pam mae pensiynwyr yn fwy agored i niwed o ran llifogydd ac erydu arfordirol?
Mae pensiynwyr wedi cael addysg wael
Dydy pensiynwyr methu rhedeg oddi wrth lifogydd
Mae pensiynwyr yn aml yn dewis byw wrth yr arfordir
Pa un o’r datganiadau isod sy’n disgrifio ffoadur amgylcheddol?
Rhywun sy’n cael ei orfodi i adael ei gartref o ganlyniad i lifogydd neu lefel y môr yn codi
Rhywun sy’n cael ei orfodi i adael ei gartref oherwydd rhyfel
Rhywun sy’n gadael ei gartref i gael gwell cyfle am swydd, neu swydd well
Beth yw ystyr gwynnu cwrel?
Pan mae olew o longau’n difrodi’r cwrel ac yn ei droi’n wyn
Pan mae tymheredd y môr yn codi, sy’n troi’r cwrel yn wyn
Pan mae pysgotwyr yn lliwio’r cwrel yn fwriadol er mwyn ei gwneud yn haws gweld pysgod
Sut mae mapio peryglon yn helpu i wneud cymunedau arfordirol yn llai agored i niwed?
Mae’n helpu pobl i ganfod lle mae’r nifer fwyaf o losgfynyddoedd
Mae’n darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am ardaloedd sydd dan fygythiad mawr
Mae’n helpu twristiaid i ffeindio’u ffordd o gwmpas
Sut gall llywodraeth helpu i fynd i’r afael â gwraidd yr hyn sy’n gwneud ardaloedd arfordirol yn agored i niwed?
Darparu cyfleoedd addysgol i blant a phobl ifanc
Adeiladu mwy o lochesi llifogydd/corwyntoedd
Gwella’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu i wasanaethau brys fel y frigâd dân
Pa ardaloedd o’r DU sy’n fwyaf agored i niwed o ganlyniad i lefel y môr yn codi yn y dyfodol?
Gorllewin Cymru
Dwyrain Lloegr
De’r Alban