Beth yw enwau’r prif gymeriadau?
Gwyn, Owain a Richard
Rhisiart, Owen a Bryn
Gwyn, Richard a Tegid
Beth sy’n clymu’r nofel gyda’i gilydd?
Gwyn yn darllen hanes damwain hofrennydd yn y papur newydd
Ymgyrch Meibion Glyndŵr
Richard Lloyd yn marw
Pam bod Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn trefn Ysgol Dre?
Nid yw’n hoffi’r wisg ysgol
Nid yw’n hoffi gwrth-Gymreictod y lle
Nid yw’n hoffi siarad Saesneg
Pam mae Owain yn flin gyda Joshua?
Mae Joshua yn dweud celwydd amdano ac ef oedd achos ei ddiarddel
Mae Joshua yn rhoi’r cyngor anghywir iddo ac mae hynny’n arwain at ladd y person anghywir
Mae Joshua'n dweud bod ffordd arall o fyw heblaw un Owain gan wneud iddo amau a yw e wedi dewis y llwybr bywyd cywir
Pwy sy’n cyflwyno Gwyn i fawredd byd natur?
Richard Lloyd
Owain
Rhian Fedw
Sut bobl yw pobl y mynyddoedd yn y stori?
Diog ac annifyr
Diamynedd a doniol
Annibynnol ac aeddfed
Pam mae Owain yn ymuno â'r SAS?
Dylanwad Richard Lloyd a’i athrawon yn Ysgol Dre
Dylanwad yr oes a’i lwyddiant yn awyrgylch Prydeinig Ysgol Dre
Darparu bwyd i’r teulu gyda chyflog da'r SAS
Beth mae byd natur yn ei wneud i ddyn gorchfygol?
Ei gosbi
Ei ganmol
Ei glodfori
Beth yw thema amlycaf Dim?
Heddwch
Perthyn/brawdoliaeth
Hunaniaeth
Beth yw thema bwysicaf Dim?
Goroesi
Natur
Cymreictod