Mae sgïwr yn sgïo ar fuanedd cyson o 12 m/s. Pa bellter mae'n ei deithio mewn munud?
720 m
60 m
12 m
Mae beic modur yn mynd o 0 m/s (disymudedd) i 40 m/s mewn 8 eiliad. Cyfrifa'r cyflymiad.
5 m/s
0.2 m/s2
5 m/s2
Mae beiciwr yn rhoi'r gorau i bedlo o 12 m/s nes ei bod hi'n stopio. Mae hyn yn cymryd 16 eiliad iddi. Cyfrifa ei chyflymiad.
0.75 m/s2
-0.75 m/s2
-1.33 m/s2
Pa un o'r llinellau hyn sy'n dangos car yn symud ar gyflymder cyson am 30 eiliad?
A
B
C
Beth mae graddiant graff cyflymder-amser yn ei gynrychioli?
Buanedd y gwrthrych
Cyflymiad y gwrthrych
Y pellter mae'r gwrthrych wedi'i deithio
Sut byddai gwrthrych sy'n teithio ar fuanedd cyson yn edrych ar graff pellter-amser?
Fel llinell syth yn codi â graddiant positif cyson
Fel llinell yn crymu am i fyny â graddiant yn cynyddu
Fel llinell lorweddol
Pa mor bell mae'r cerbyd hwn yn ei deithio mewn 20 eiliad?
100 m
200 m
300 m
Mae car yn teithio ar 15 m/s. Os yw amser ymateb y gyrrwr yn 0.8 s a'r pellter brecio ar y buanedd hwn yn 20 m, beth yw cyfanswm y pellter stopio?
35 m
32 m
Beth yw cyflymiad y cerbyd hwn?
1 m/s2
1.25 m/s2
2 m/s2
Mae person yn cerdded o A i B i C mewn 1 awr. Beth yw'r dadleoliad a'r cyflymder, yn ôl eu trefn?
7 km a 5 km/h
5 km a 7 km/h
5 km a 5 km/h