Pa fath o dirffurf sy’n gallu cael ei achosi gan fandiau o graig galed a meddal?
Tafod
Pentiroedd a baeau
Llyfndir tonnau
Beth yw llyfndir tonnau?
Arwyneb creigiog ar oleddf graddol sydd i’w weld wrth droed clogwyn
Llwyfan sydd wedi ei adeiladu o waddod wedi ei ddyddodi
Crac bach sydd wedi ei erydu o glogwyn
Beth yw’r prif brosesau erydiad sy’n ffurfio ogof?
Athreuliad a sgrafelliad
Sgrafelliad a drifft y glannau
Gweithred hydrolig a sgrafelliad
Pa fath o donnau sy’n ffurfio traethau?
Tonnau adeiladol
Tonnau dinistriol
Tonnau adeiladol a dinistriol
Pa un o’r rhain sy’n dirffurf bach?
Traeth
Rhic tonnau
Beth yw un o’r prosesau sy’n gysylltiedig â ffurfiad tafod?
Gweithred hydrolig
Drifft y glannau
Athreuliad
Pa ffactor sy’n effeithio ar gyfraddau newid ffurfiadau pentir a bae?
Ymyriad dynol
Daeareg
Ongl llethr
Enghraifft o ba fath o dirffurf yw Creigiau Old Harry?
Bwa
Stac
Pa fath o forlin yw arfordir Dorset?
Drud
Cydgordiol
Anghytgordiol
Sut mae gweithgaredd dyn wedi effeithio ar y tirffurfiau arfordirol yng Nghricieth?
Mae argorau wedi eu codi ac maen nhw wedi dal tywod a’i rwystro rhag cyrraedd y traeth ymhellach draw i’r dwyrain o Gricieth
Mae arfogaeth rip-rap wedi ei hadeiladu yn erbyn gwaelod y clogwyn ac mae hynny wedi gwylltio pobl leol
Mae llawer o strwythurau ymwelwyr wedi eu codi ar y traeth ac maen nhw’n atal y tonnau