Pa haen o feinwe yn y ddeilen sy’n cyflawni’r rhan fwyaf o amsugno golau ar gyfer ffotosynthesis?
Meinwe palisâd
Meinwe mesoffyl sbyngaidd
Meinwe epidermaidd isaf
Beth sy’n achosi i’r stomata agor?
Y celloedd gwarchod yn marw
Y celloedd gwarchod yn mynd yn llipa
Y celloedd gwarchod yn mynd yn chwydd-dynn
Beth yw enw’r broses lle mae carbon deuocsid ac ocsigen yn mynd i mewn ac allan o’r ddeilen?
Cludiant actif
Osmosis
Trylediad
Pa un o’r sylweddau hyn sy’n cael ei gludo yn nhiwbiau ffloem y planhigyn?
Dŵr
Swcros
Halwynau mwynol
Pa un o’r rhain sy’n un o nodweddion tiwbiau sylem?
Cytoplasm byw
Llawer o fitocondria
Muriau gwydn yn cynnwys lignin
Beth yw enw’r broses o golli anwedd dŵr drwy’r stomata?
Trawsleoliad
Trydarthiad
Pa un o’r rhain sy’n swyddogaeth trydarthiad?
Cludo siwgr i’r gwreiddiau i’w storio fel startsh
Cludo glwcos i’r cyffion sy’n tyfu
Oeri’r dail drwy anweddiad
Beth yw enw’r broses lle mae dŵr yn symud i mewn i gell wreiddflew?
Sut mae celloedd gwreiddflew wedi addasu i amsugno cymaint â phosibl o ddŵr?
Mae ganddynt arwynebedd arwyneb mawr
Mae ganddynt arwynebedd arwyneb bach
Mae ganddynt bilen gwbl athraidd
Pa ddau beth sy’n cael eu mesur mewn potomedr i roi amcangyfrif o gyfradd trydarthu?
Cyfaint y dŵr sy’n cael ei golli a’r amser mae’n ei gymryd
Y pellter mae’r swigen yn ei deithio a’r amser mae’n ei gymryd
Y pellter mae’r swigen yn ei deithio a chyfaint y dŵr sy’n cael ei golli