Loci a gwneud lluniadau test questions

1

Beth yw ystyr haneru ongl neu linell?

2

Pa ddiagram sy’n dangos locws cywir y pwyntiau sy’n agosach at A na B?

3

Pa lun sy’n cynrychioli ardal y pwyntiau sy’n agosach at y llinell XY nag YZ?

4

Pa ddiagram sy’n dangos ardal y pwyntiau sy’n llai na 2 cm oddi wrth bwynt P?

5

Mae cwestiynau 5 i 10 ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch

Pa sefyllfa mae’r lluniad hwn yn ei chynrychioli orau?

Petryal â phwyntiau W, X, Y a Z wedi'i rannu gan ddwy linell grom

6

Pa feini prawf sy’n diffinio orau yr ardal sydd wedi ei thywyllu?

Triongl â phwyntiau A, B a C wedi'i rannu gan dair llinell

7

Pa luniadau sy’n cael eu defnyddio i greu’r locws hwn?

Triongl â phwyntiau A, B a C wedi'i rannu gan bedair llinell

8

Pa luniad ddylet ti ei ddefnyddio i ddangos locws y pwyntiau sy’n gytbell o AB ac AC yn y trapesiwm ABCD?

Trapesiwm â phwyntiau wedi'u marcio fel A, B, C a D

9

Pa luniad ddylet ti ei ddefnyddio i ddangos locws y pwyntiau sy’n gytbell o AB a CD yn y petryal ABCD?

Petryal â phwyntiau wedi'u marcio fel A, B, C a D

10

Ar y map hwn, dangosir pedwar lleoliad posib ar gyfer trysor wedi ei gladdu:

Trapesiwm â phwyntiau wedi'u marcio fel A, B, C a D a llinellau toredig yn marcio 1, 2, 3 a 4

Dyma ddau gliw:

  • Mae’r trysor wedi ei gladdu’n gytbell o linell DA a llinell DC
  • Mae’r trysor yn agosach at bwynt D na B

Ym mhle mae wedi ei gladdu?