Beth yw ymchwil ansoddol?
Ymchwil sy’n seiliedig ar rifau
Ymchwil sydd o safon uchel
Ymchwil sy’n darparu gwybodaeth fanwl am ymddygiad dynol
Beth yw atodiadau mewn project ymchwil?
Datganiadau cyffredinol sy’n disgrifio beth fydd yn cael ei archwilio er mwyn ateb neu gyflawni teitl y project ymchwil
Unrhyw beth sydd wedi cael ei grybwyll yn y project ond nad oes angen iddo fod ym mhrif gorff y project
Disgrifiadau manwl o’r ffynonellau gwybodaeth sydd wedi cael eu defnyddio yn y project ymchwil
Beth yw ymchwil cynradd?
Ymchwil sy’n bodoli’n barod
Ymchwil sy’n cael ei gasglu gan yr ymchwilydd am y tro cyntaf
Ymchwil sy’n cael ei gasglu gan y llywodraeth
Beth yw mantais ymchwil cynradd?
Mae’n benodol i anghenion yr ymchwilydd
Gall pawb gael mynediad ato
Mae’n ddull rhad i’w ddefnyddio i gasglu data
Beth yw un o fanteision defnyddio holiaduron wyneb yn wyneb?
Mae’n bosibl cwblhau nifer fawr o holiaduron
Gall ymatebwyr ofyn cwestiynau os nad ydynt yn deall rhywbeth
Mae holiaduron wyneb yn wyneb yn ddull ymchwil cyflym
Beth yw cyfweliad lled-strwythuredig?
Cyfweliad heb gwestiynau penodol
Cyfweliad lle mae’n rhaid i ymatebwyr ddewis yr ateb i gwestiwn o set o atebion posibl
Cyfweliad lle mae’r un cwestiynau penagored yn cael eu gofyn i bob ymatebydd
Beth yw grŵp ffocws?
Grŵp o bobl sy’n canolbwyntio ar gyflawni nod
Grŵp bach o bobl y mae rhywun yn gofyn cwestiynau penagored iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gyfleu eu meddyliau neu eu teimladau
Grŵp mawr o bobl y mae rhywun yn gofyn cwestiynau penagored iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gyfleu eu meddyliau neu eu teimladau
Beth yw hapsampl?
Sampl lle mae gan bob unigolyn yr un siawns o gael ei ddewis
Sampl lle mae rhai pobl yn mynd i fod yn fwy tebygol o gael eu dewis na rhai eraill
Sampl y mae’r ymchwilydd wedi ei ddewis oherwydd ei fod yn credu y bydd y bobl y mae wedi eu dewis yn rhoi’r wybodaeth y mae arno ei heisiau
Beth mae’r gallu i gyffredinoli yn ei olygu?
Bydd y sampl sydd wedi cael ei ddewis yn cynhyrchu gwybodaeth sy’n gynrychioladol o’r boblogaeth
Bod y sampl yn cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd, oedran ac ethnigrwydd
Nid yw’r sampl yn fach
Sut mae cyfrifo gwerth cymedrig?
Rhoi’r gwerthoedd mewn trefn gronolegol a dewis y gwerth yn y canol
Nodi’r gwerth data mwyaf poblogaidd
Adio’r gwerthoedd i gyd a rhannu â nifer y gwerthoedd