Cymhareb test questions

1

Cymhareb y grawnwin i’r orenau mewn powlen ffrwythau yw 18:3. Os oes yna 24 o wrawnwin, faint o orenau sydd yna?

2

I wneud paent Porffor Pendant rhaid i ti gymysgu paent coch, melyn a glas yn y gymhareb 2:3:4. Os oes gen i 510 ml o baent melyn, faint o baent coch fydda i ei angen i wneud tun o baent Porffor Pendant?

3

Mae Clare a Frances yn cael £400 i’w rannu gan berthynas oedrannus. Maen nhw’n rhannu’r arian yn y gymhareb 7:9. Faint mae’r ddwy’n ei gael?

4

Mae Emma, Sarah a Mark yn ennill £60 trwy werthu donyts mewn sêl cist car. Gweithiodd Emma am 3 awr, Sarah am 5 awr a Mark am 2 awr. Maen nhw’n rhannu’r arian yn gyfrannol i nifer yr oriau wnaethon nhw weithio. Faint o arian mae Sarah yn ei ennill?

5

Mae gan Louise a Sam gasgliad o sawl DVD – am bob 2 ffilm cynnwrf sydd gan Sam, mae gan Louise 5 comedi. Os oes gan Louise 30 comedi, sawl DVD sydd ganddyn nhw i gyd efo’i gilydd?

6

Mewn rysàit i wneud 12 cacen fach, mae angen 300 g o flawd. Faint o flawd sydd ei angen ar gyfer 17 cacen fach?

7

Mae cwestiynau 7 i 10 ar gyfer yr haen ganolradd

Mae hyd darn o bren mewn cyfrannedd union â’i bwysau. Os yw darn o bren yn 30 cm, mae’n pwyso 150 g. Ysgrifenna hafaliad ar gyfer hyd (H) darn o bren mewn perthynas â’i bwysau (P).

8

Mae Pierre yn seiclo 5 milltir mewn 20 munud. Ysgrifenna hafaliad ar gyfer yr amser mae’n ei gymryd (a) mewn perthynas â’r pellter mae’n ei seiclo (p) a defnyddia hwn i ganfod pa mor bell mae’n gallu ei seiclo mewn 1 awr a 40 munud.

9

Mae nifer y peintwyr sy’n cael eu cyflogi mewn cyfrannedd wrthdro â’r amser mae’n ei gymryd i orffen y gwaith. Os yw 4 peintiwr yn gallu peintio tŷ mewn 5 niwrnod, faint o beintwyr sydd eu hangen i beintio tŷ mewn 4 diwrnod yn unig?

10

Mae’r amser mae’n ei gymryd i orffen cylchdro ar gêm gyfrifiadur Speedy Sprints mewn cyfrannedd wrthdro â’r cyflymder cyfartalog a deithiwyd. Os yw’r amser yn dri munud pan fo’r cyflymder = 10 Speedy Sprints, faint o amser mae’n ei gymryd i orffen cylchdro wrth deithio ar gyflymder o 25 Speedy Sprints?