O beth mae ymbelydredd alffa wedi'i wneud?
Dau broton a dau niwtron
Un electron
Ymbelydredd electromagnetig
Beth yw diffiniad rhif niwcleon?
Cyfanswm y protonau a niwtronau yn y niwclews
Nifer y protonau yn yr atom
Cyfanswm y protonau ac electronau yn y niwclews
Pa fath o ymbelydredd sy'n teithio bellaf mewn aer?
Alffa
Beta
Gama
Pa fath o ymbelydredd yw'r mwyaf peryglus y tu mewn i'r corff?
Pa un o’r rhain sy'n ffynhonnell artiffisial o ymbelydredd cefndir?
Pelydrau cosmig
Creigiau a phridd
Gwastraff ymbelydrol
Pa wefr sydd gan ymbelydredd alffa?
Negatif
Niwtral
Positif
Pa fath o wastraff ymbelydrol sy'n cael ei gymysgu â choncrit a'i roi mewn drwm dur gwrthstaen mewn storfa bwrpasol?
Gwastraff ymbelydrol lefel uchel
Gwastraff ymbelydrol lefel ganolig
Gwastraff ymbelydrol lefel isel
Beth yw isotopau?
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o electronau
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o brotonau
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o niwtronau
Pa fath o ymbelydredd yw'r lleiaf treiddiol?
Pa fathau o ymbelydredd yw'r mwyaf peryglus y tu allan i'r corff?
Gama a beta
Beta ac alffa
Alffa yn unig