Pa ran o’r gell sy’n gyfrifol am resbiradaeth aerobig?
Cnewyllyn
Cellbilen
Mitocondria
Pam mae resbiradaeth aerobig yn darparu mwy o egni i’w ddefnyddio na resbiradaeth anaerobig?
Dydy’r broses ddim yn defnyddio ocsigen
Mae’n dadelfennu’r glwcos yn llwyr
Mae’n gyflymach
Ym mha sefyllfa wyt ti fwyaf tebygol o gyflawni resbiradaeth anaerobig?
Wrth eistedd ar gadair
Wrth redeg marathon
Wrth redeg ras 100 m
O ba sylwedd mae’r cylchoedd sy’n cynnal y tracea wedi eu gwneud?
Cartilag
Asgwrn
Cyhyr
Beth yw’r broses gyntaf sy’n digwydd wrth anadlu i mewn (mewnanadlu)?
Mae’r ysgyfaint yn llenwi ag aer
Mae’r asennau’n symud i fyny a thuag allan
Mae’r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu
Ar ben pellaf pa diwbiau bach mae’r alfeoli?
Bronciolynnau
Bronci
Tracea
Yn y model clochen, pa ffurfiad yn y bod dynol mae’r ddalen rwber yn ei gynrychioli?
Ysgyfaint
Llengig
Asennau
O gymharu ag aer yr atmosffer, pa un o’r canlynol sydd mewn aer wedi’i allanadlu?
Llai o anwedd dŵr
Llai o garbon deuocsid
Llai o ocsigen
Pa un o’r nodweddion hyn sy’n cynyddu cyfradd trylediad ar draws arwyneb yr alfeoli?
Arwynebedd arwyneb bach ar gyfer tryledu
Arwyneb llaith fel bod nwyon yn gallu hydoddi cyn tryledu
Muriau trwchus i gynyddu’r pellter tryledu
Pa un o’r sylweddau mewn mwg sigaréts sy’n cynnwys carsinogen (cemegyn sy’n achosi canser)?
Nicotin
Tar
Carbon monocsid