Pa un o’r rhain sy’n swyddogaeth rhaniad cell trwy feiosis?
Adnewyddu hen gelloedd a rhai wedi’u niweidio
Twf
Atgenhedlu rhywiol
Sawl epilgell a gynhyrchir wrth i gell rannu trwy fitosis?
2
4
6
Pa fath o gellraniad sy’n cynhyrchu celloedd â genynnau union yr un fath?
Meiosis
Mitosis
Gametogenesis
Cynhyrchir gametau dynol drwy feiosis. Sawl cromosom sydd ganddyn nhw?
46
23
92
Pa un o’r prosesau hyn sy’n achosi canser?
Mitosis afreolus
Meiosis afreolus
Haint facteriol
Beth yw celloedd bonyn?
Celloedd diwerth
Celloedd wedi’u gwahaniaethu
Celloedd heb eu gwahaniaethu
Beth yw’r enw ar gelloedd sydd â’r potensial i droi’n unrhyw fath arall o gell?
Celloedd coch y gwaed
Celloedd bonyn embryonig
Celloedd bonyn oedolyn
Beth yw’r enw ar gelloedd bonyn planhigion?
Celloedd palisâd
Celloedd mesoffyl sbyngaidd
Celloedd meristem
Ym mha ran o blanhigyn y cewch chi gelloedd meristem?
Yn y ddeilen a blaen yr eginyn
Ym mlaen yr eginyn a blaen y gwreiddyn
Ym mlaenau’r gwreiddiau ac yn y ddeilen
Mae defnyddio celloedd bonyn embryonig ar gyfer trin clefyd yn codi pa fath o gwestiwn?
Moesegol
Syml
Preifat