Beth yw cwestiwn rhethregol?
Cwestiwn lle nad oes angen ateb
Cwestiwn lle mae rhaid nodi ateb pendant
Cwestiwn lle mae rhaid i’r gwrandawr ateb
Pa un o’r rhain sydd yn enghraifft o gyfarch y gynulleidfa?
Oeddech chi’n gwybod...?
Heb os nac oni bai
Mae tystiolaeth yn nodi...
Pa un o’r brawddegau canlynol sydd yn cynnwys enghraifft o ferf orchmynnol?
Ystyriwch
Yn fy marn i
Does dim dwywaith amdani
Sut iaith y dylid ei defnyddio mewn blog?
Iaith ffurfiol
Iaith anffurfiol bob dydd
Iaith wallus
Pa un o’r berfau hyn sydd yn y gorffennol?
Agorais
Gwelaf
Ysgrifennaf
Pa un o’r rhain sydd ddim yn derm mynegi barn?
Yna
Credaf yn gryf
Beth sy’n bosibl i ti ei wneud os wyt ti eisiau cyfeirio at ystadegau yn dy ateb?
Ysgrifennu’r ystadegau yn Saesneg
Defnyddio’r wybodaeth yn y darnau darllen yn Adran A y papur arholiad
Ni ddylet ti gyfeirio at ystadegau yn dy ateb
Beth yw pwrpas araith?
Adrodd hanes y gorffennol
Disgrifio golygfa
I geisio perswadio’r gynulleidfa i gytuno â’r hyn rwyt ti’n ei ddweud
Beth yw pwrpas ailadrodd mewn araith?
Edrych fel dy fod wedi ysgrifennu mwy
Pwysleisio
Gwastraffu amser
Beth sy’n rhaid ei wneud wrth drafod digwyddiadau mewn erthygl?
Ysgrifennu paragraffau hir am bob rhan o’r digwyddiad
Ysgrifennu’n ffeithiol ac yn gryno
Gosod y digwyddiadau mewn unrhyw drefn