Ffracsiynau a chanrannau test questions

1

Dw i’n gwario \(\frac {2} {5}\) o fy lwfans o £70 ar ddillad. Faint o arian sydd gen i ar ôl?

2

Beth yw 45% o 135 ml?

3

Mae tri mochyn, pedair hwyaden a dwy ddafad ar fferm. Pa ganran o’r anifeiliaid sy’n hwyaid, i’r rhif cyfan agosaf?

4

Mae 20 merch a 30 bachgen yn mynd ar drip ysgol. Pa ffracsiwn sy’n ferched?

Mynega dy ateb yn ei ffurf symlaf.

5

Mae Anya yn cyfrannu £12 i elusen. Mae hyn yn \(\frac {4} {7}\) o’r arian yn ei phwrs. Faint sydd ganddi ar ôl?

6

Dw i’n defnyddio 20% o fag blawd i wneud cacen sydd angen 140 g o flawd. Pa mor drwm oedd y bag yn wreiddiol?

7

Mae salon Gwallt Gwych yn codi tâl sylfaenol am dorri gwallt, sy’n cynyddu 15% i gynnwys steilio, gan roi cyfanswm o £30. Faint mae’n ei gostio i dorri’ch gwallt, heb ei steilio, i’r bunt agosaf?

8

Mae prisiau nwy’n gostwng 12%. Os yw taliad misol person nawr yn £78.50, beth oedd e cyn i’r prisiau ostwng?

9

Beth yw’r gwerth pan fyddi’n rhoi cynnydd o 2% ar 40, gan ddefnyddio lluosyddion?

10

Mae Melissa wedi ei hydradu 65% ganol dydd. Erbyn 5.00pm, mae ei hydradiad wedi lleihau 2.5% o’r hyn oedd e ganol dydd. Gan ddefnyddio lluosyddion, cyfrifa pa mor hydredig ydy hi erbyn hyn.