Deddfau Newton test questions

1

Mae màs person yn 65 kg ar y Ddaear. Beth fydd ei fàs ar y Lleuad lle mae g = 1.6 N/kg?

2

Sut rwyt ti’n cyfrifo grym cydeffaith?

3

Pa hafaliad sy'n crynhoi Ail Ddeddf Mudiant Newton?

4

Os wyt ti'n pwyso 650 N ar y Ddaear lle mae g = 10 N/kg, faint fyddi di'n ei bwyso ar y blaned Mawrth lle mae g = 3.75 N/kg?

5

Beth mae Ail Ddeddf Newton yn ei olygu?

6

Beth yw uned màs?

7

Beth yw'r grym cydeffaith sy'n gweithredu ar fan â màs 2,400 kg, os yw'n cyflymu ar 3.5 m/s2 ?

8

Mae car yn cyflymu ar hyd ffordd. Beth sy’n digwydd i’r grymoedd llusgo neu wrthiant aer?

9

Pan mae'r grym cydeffaith ar wrthrych yn sero, pa un o'r canlynol allai ddisgrifio ei fudiant?

10

Mae parasiwtydd yn neidio allan o awyren. Pa un o'r gosodiadau hyn sy'n ddisgrifiad cywir o'r hyn sy'n digwydd i'r grymoedd sy'n gweithredu ar y parasiwtydd yn syth ar ôl gadael yr awyren?