Pa ddylanwadau sydd angen eu hystyried mewn dadansoddiad PESTLE?
Gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, technolegol, cyfreithiol, amgylcheddol
Parodrwydd, eglurhad, sylw, trafodaeth, llwyddiant, effaith
Pwysig, ariannol, cryf, hanfodol, awyddus, gorffenedig
Pa un o’r canlynol sy’n enghraifft o ddylanwad economaidd?
Cyfraddau chwyddiant
Maint poblogaeth
Cyrhaeddiad addysgol
Beth mae ffynhonnell gredadwy yn ei olygu?
Ffynhonnell sy’n agos at y digwyddiad gwreiddiol
Ffynhonnell sy’n seiliedig ar ffynonellau amrywiol
Ffynhonnell y gallwn gredu ei bod yn wir
Beth yw ystyr ffynhonnell sydd â diddordeb personol?
Ffynhonnell sydd â neges bwysig
Ffynhonnell sy’n cael budd o ganlyniad i hyrwyddo neu ddiogelu’r diddordeb hwnnw
Ffynhonnell sydd ag enw da iawn sy’n ei hyrwyddo ac yn ei diogelu
Beth yw ystyr ‘awdurdod’ mewn perthynas â dogfen?
Rhywun sydd â’r arbenigedd priodol i ysgrifennu’r ddogfen
Rhywun sydd wedi gwirio dogfen i wneud yn siŵr ei bod yn wir
Rhywun sydd â chymhwyster yn y pwnc y mae’n ysgrifennu amdano
Beth mae meddwl yn feirniadol yn ei olygu?
Derbyn gwybodaeth
Cwestiynu gwybodaeth
Beirniadu gwybodaeth
Beth yw strwythur teulu estynedig?
Un oedolyn sydd â llawer o blant
Dau oedolyn â phlant
Dau oedolyn neu ragor
Beth yw ymchwil caled?
Ymchwil sy’n gymhleth ac yn anodd ei ddeall
Ymchwil sy’n wrthrychol ac yn wyddonol
Ymchwil sy’n oddrychol ac yn seiliedig ar farn
Faint o eiriau chwilio sy’n cael eu hargymell fel arfer wrth ddefnyddio peiriant chwilio?
Un neu ddau o eiriau
Rhwng tri a phump gair
Rhwng chwech a deg gair
Pan un o’r canlynol sy’n enghraifft o ffynhonnell ymchwil meddal?
Cyfnodolyn academaidd
Adroddiad meddygol
Safle adolygu cynnyrch