Beth yw’r term am sylwedd sy’n gallu hydoddi mewn hylif penodol?
Anhydawdd
Hydawdd
Hydwyth
Mewn hydoddiant, beth yw'r term ar gyfer yr hylif?
Hydoddyn
Hydoddydd
Adweithydd
Mewn hydoddiant, beth yw'r term ar gyfer y solid sydd wedi hydoddi?
Ar gyfer y rhan fwyaf o hydoddion solid, beth sy'n digwydd i'r hydoddedd wrth i'r tymheredd gynyddu?
Mae'r hydoddedd yn cynyddu
Mae'r hydoddedd yn lleihau
Mae'r hydoddedd yn aros yr un fath
Pam mae hi'n bwysig nodi hydoddedd ar dymheredd penodol?
Dim ond ar dymheredd isel mae rhai sylweddau'n hydoddi
Dim ond ar dymheredd uchel mae rhai sylweddau'n hydoddi
Mae hydoddedd yn dibynnu ar dymheredd
Beth fydd yn digwydd i hydoddiant copr(II) sylffad dirlawn poeth wrth i'r tymheredd ostwng?
Bydd yr hydoddydd yn anweddu
Bydd grisialau'n ffurfio
Bydd yn troi'n ddi-liw
Gan ddefnyddio'r graff isod, beth yw màs y potasiwm nitrad fyddai'n ffurfio wrth oeri 50 g o hydoddiant dirlawn o 80°C i 40°C?
92 g
46 g
8 g
Sut rwyt ti'n disgrifio'r newid i hydoddedd sodiwm sylffad a sodiwm hydrogenarsenad ar dymereddau uwch na 45°C?
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae hydoddedd sodiwm sylffad yn lleihau ac mae hydoddedd sodiwm hydrogenarsenad yn cynyddu
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae hydoddedd sodiwm sylffad yn lleihau ychydig bach ac mae hydoddedd sodiwm hydrogenarsenad yn cynyddu llawer
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae hydoddedd sodiwm sylffad yn lleihau llawer ac mae hydoddedd sodiwm hydrogenarsenad yn cynyddu llawer
Hydoddedd pa sylwedd sy'n newid fwyaf gyda thymheredd?
Y
Z
X
Pam mae amrediad y raddfa tymheredd ar graff hydoddedd yn mynd o 0°C i 100°C?
Mae'r hydoddyn yn rhewi o dan 0°C ac yn anweddu ar 100°C
Mae dŵr yn berwi ar 100°C
Mae dŵr yn ymsolido ar 0°C ac yn berwi ar 100°C