Pa un o’r canlynol ddylech chi ei weld ar fap ffisegol?
Afonydd
Prifddinasoedd
Hapusrwydd byd-eang
Pa un o’r canlynol allech chi ei weld ar fap dynol?
Mynyddoedd
Ffiniau platiau
Llwybrau trafnidiaeth
Pa liw yw mynyddoedd ar fap ffisegol?
Gwyrdd
Brown
Glas
Pa bwynt ar y cwmpawd sydd rhwng y de a’r gorllewin?
Gorllewin de-orllewin
Gogledd-ddwyrain
De-ddwyrain
Pa un o’r mapiau hyn fyddai’n ddefnyddiol i ddangos trefi a dinasoedd unigol?
1:100,000
1:50,000
1:10,000
Sut mae sgwariau grid yn cael eu dangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans?
Llinellau oren
Llinellau brown
Llinellau glas
Beth mae cyfuchliniau sy’n agos i’w gilydd yn ei ddangos?
Tir serth
Tir ar fymryn o ogwydd
Tir gwastad
Pa fath o luniau sydd fel arfer yn cael eu tynnu pan fydd ysgol yn gwneud gwaith maes?
Lluniau o’r awyr
Lluniau ar lefel y tir
Lluniau lloeren
Pam mae mapiau daeareg yn ddefnyddiol?
Maen nhw’n dangos aneddiadau mawr
Maen nhw’n dangos rhwydweithiau trafnidiaeth
Maen nhw’n dangos cerrig, sy’n pennu amodau’r pridd
Pam mae mapiau’r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn fwy defnyddiol na mapiau papur traddodiadol (2D)?
Maen nhw’n fwy cymhleth
Maen nhw’n rhatach
Maen nhw’n caniatáu i’r defnyddiwr ychwanegu/tynnu gwahanol haenau