Os bydd cwestiwn yn gofyn i ti drafod ‘cynnwys a neges’, am beth mae’n disgwyl i ti sôn?
Hanes y bardd
Themâu
Mesur
Pan fydd geiriau fel ‘cyfleu’ ac ‘awyrgylch’ yn codi yn y cwestiwn, beth sydd angen ei drafod?
Nodweddion arddull
Neges
Yn yr arholiad byddwch yn gorfod mynegi barn. Pa eiriau eraill sy’n cael eu defnyddio yn y cwestiwn am fynegi barn?
Trafodaeth drefnus
Creu awyrgylch
Ymateb personol
Pan fyddi di’n darllen cerdd nad wyt ti wedi ei hastudio, beth ddylet ti ei wneud i dy helpu gyda dy ateb?
Gwneud nodiadau
Adrodd y gerdd yn uchel
Ateb y cwestiwn yn syth
Beth yw ystyr ‘cymharu’?
Edrych ar beth sy’n debyg ac yn wahanol
Dadansoddi nodweddion arddull
Darganfod themâu
Beth sydd angen i ti ei wneud i gefnogi dy farn a chymharu’r cerddi?
Dyfynnu
Edrych ar beth sy’n debyg neu’n wahanol
Pa rai o’r canlynol sy’n perthyn i ‘nodweddion arddull’?
Iaith, mesur a disgrifiadau
Themâu, cynnwys a neges
Barn, dyfyniadau a chymharu
Pa un o’r brawddegau canlynol sy’n ddefnyddiol wrth gymharu?
‘Ar y naill law... ond ar y llaw arall...’
‘Yn fy marn i…’
‘Ystyr y frawddeg hon yw…’
Pa un o’r brawddegau hyn sy’n ddefnyddiol i fynegi barn?
‘Un o’r prif wahaniaethau rhwng y cerddi yw…’
‘Nid oes cynghanedd yn y gerdd…’
‘Mae’n well gen i… oherwydd…’
Pa dri pheth sydd angen eu trafod mewn cwestiwn arholiad?
Themâu, nodweddion arddull a barn bersonol
Nodweddion arddull, hanes y bardd a nofelau
Themâu, gramadeg a neges