Pa fath o dywydd sy’n cael ei achosi gan ddiwasgedd?
Tywydd ansefydlog gyda glawiad newidiol
Tywydd sefydlog a sych gydag awyr glir
Tywydd sefydlog gyda glaw cyson fel arfer
Pa fath o amodau tywydd mae gwrthseiclon yn ei achosi yn ystod yr haf yn y DU?
Tywydd ansefydlog gyda glaw cyson fel arfer
Pa fath o law wnaeth achosi'r llifogydd yng Nghymbria?
Glaw tirwedd
Glaw ffrynt
Glaw darfudol
Beth yw glaw tirwedd?
Pan mae ffrynt cynnes yn cwrdd â ffrynt oer ac yn achosi glaw trwm
Mae’n digwydd yn ystod yr haf yn y DU pan mae’r haul yn cynhesu'r tir
Pan mae aer llaith a chynnes yn codi dros mynyddoedd
Pan mae llystyfiant yn cael ei ddinistrio gan lifogydd, pa fath o effaith yw hyn?
Effaith amgylcheddol
Effaith gymdeithasol
Effaith economaidd
Pa fath o systemau gwasgedd sy’n gysylltiedig â seiclonau a chorwyntoedd?
Uchel
Isel
Canolig
Pa un o’r canlynol sy’n un o effeithiau cymdeithasol Seiclon Pam?
Cafodd pedair pont eu dinistrio
Cafodd 90 y cant o’r cartrefi eu dinistrio, gan adael llawer o bobl yn ddigartref
Cafodd llystyfiant ei ddinistrio, gan ladd cynefinoedd
Pa un o’r canlynol oedd yn un o effeithiau economaidd y sychder yng Nghaliffornia?
Craciau yn ymddangos mewn adeiladau a ffyrdd
Gorfodi pobl i adael eu tai
Colli dros 17,000 o swyddi amaethyddol
Sut mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn helpu i leihau’r risg o lifogydd?
Mae’n rhybuddio pobl am lifogydd
Mae’n darparu gwasanaethau brys fel hofrenyddion
Mae’n darparu arian i adeiladu piblinellau
Pa un o’r canlynol oedd yn un o effeithiau economaidd llifogydd Cymbria?
Cafodd eiddo a stoc nifer o fusnesau eu difrodi
Newidiodd cwrs afonydd yn sylweddol o ganlyniad i gynnydd mewn erydiad
Bu rhaid i oddeutu 40 o ysgolion gau yng Nghymbria