Beth yw’r canolrif?
Y gwerth cyntaf mewn rhestr o rifau
Y gwerth canol mewn rhestr o rifau
Y gwerth mwyaf mewn rhestr o rifau
Sut mae’r cymedr yn cael ei gyfrifo?
Drwy adio’r rhifau i gyd a rhannu â nifer y rhifau
Drwy rannu â’r rhifau i gyd
Drwy adio’r rhifau i gyd
Beth yw’r amrediad?
Y gwahaniaeth rhwng y rhif isaf a’r rhif canol mewn set o ddata
Y gwahaniaeth rhwng y rhif uchaf a’r rhif canol mewn set o ddata
Y gwahaniaeth rhwng y rhif mwyaf a’r rhif lleiaf mewn set o ddata
Beth yw’r amrediad rhyngchwartel?
Y gwahaniaeth rhwng y chwartel uchaf a’r chwartel isaf
Maint y chwartel
Y rhifau sy’n rhannu’r gwerthoedd yn chwarteri hafal
Beth yw’r dosbarth modd?
Y grŵp sydd â’r amlder isaf
Y grŵp sydd â’r amlder cyfartalog
Y grŵp sydd â’r amlder uchaf
Beth yw’r modd?
Y nifer sy’n digwydd amlaf mewn set o ddata
Y nifer sy’n digwydd yn lleiaf aml mewn set o ddata
Y rhif lleiaf sy’n digwydd mewn set o ddata
I sawl rhan hafal y mae canradd yn rhannu set o ddata?
4
100
50
Beth mae graff plot gwasgariad yn ei ddangos?
Gwerthoedd cyfartalog un set o ddata
Y berthynas rhwng tair set o ddata
Y berthynas rhwng dwy set o ddata
Beth mae rhyngosod tueddiadau yn ei olygu?
Pan mae gwerth yn cael ei ganfod y tu hwnt i’r set ddata drwy ragfynegiad
Pan mae gwerth yn cael ei ganfod o fewn y set ddata drwy ddefnyddio’r llinell ffit orau
Pan nad oes modd canfod gwerth drwy ddefnyddio llinell ffit orau
Beth mae allosod tueddiadau yn ei olygu?
Pan mae gwerth yn cael ei ganfod y tu allan i’r set ddata drwy ymestyn y llinell ffit orau