Beth yw damcaniaeth gorchmynion dwyfol?
Y gred bod rhywbeth yn iawn i'w wneud am mai dyna'r peth gorau i'w wneud yn y sefyllfa honno
Y gred bod gweithred yn iawn oherwydd bod Duw yn ei gorchymyn i fod felly
Y gred y dylen ni drin pobl eraill fel bydden ni'n hoffi cael ein trin
Pa fath o unigolyn fyddai'n dweud bod gweithredoedd yn gynhenid dda neu ddrwg?
Diamodwr moesol
Perthynolwr moesol
Rhywun sy'n credu yn y ddamcaniaeth gorchmynion dwyfol
Beth yw ystyr moesoldeb berthynol?
Mae gweithredoedd yn gynhenid dda neu ddrwg
Mae gweithredoedd yn iawn oherwydd bod Duw yn eu gorchymyn i fod felly
Rhywun yn edrych ar bob sefyllfa'n unigryw i benderfynu beth sy’n dda a drwg
Beth yw’r Rheol Euraidd gafodd ei dysgu gan Iesu?
Trin bobl eraill fel hoffet ti iddyn nhw dy drin di
Os wyt ti'n dda ar y Ddaear, cei di dy wobrwyo mewn bywyd tragwyddol
Mae gweithredoedd da'n fwy gwerthfawr na nwyddau'r Ddaear
Pa fath o gariad yw cariad agape?
Rhywiol
Cyfeillgarwch
Diamod
Pa un o ddamhegion Iesu sy'n dweud wrthyn ni am garu pawb, hyd yn oed ein gelynion?
Dameg y Mab Afradlon
Dameg y Ffŵl Cyfoethog
Dameg y Samariad Trugarog
Pa un o’r canlynol sy’n rheswm pam mae Cristnogion yn dangos maddeuant?
Maen nhw'n credu, os ydyn nhw'n maddau i bobl eraill, y bydd Duw yn maddau iddyn nhw
Maen nhw eisiau i'r unigolyn osgoi cosb am wneud rhywbeth drwg
Maen nhw eisiau i rywun eu hoffi nhw
Beth yw ystyr y term Cristnogol 'Trysorau ar y Ddaear ac yn y Nefoedd'?
Y dylen ni drin pobl eraill fel bydden ni'n hoffi cael ein trin
Bod gweithredoedd da'n fwy gwerthfawr na nwyddau'r Ddaear
Bod gweithredoedd yn dda neu'n ddrwg am bod Duw yn dweud hynny
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Trysorau ar y Ddaear ac yn y Nefoedd?
Mae un yn ymwneud â nwyddau'r Ddaear a'r llall yn ymwneud â gweithredoedd da gaiff eu gwobrwyo yn y Nefoedd
Mae un yn ymwneud â'r hyn mae pobl yn ei wneud ar y Ddaear a'r llall yn ymwneud â'r hyn mae pobl yn ei wneud yn y Nefoedd
Mae un yn ymwneud â dod o hyd i drysor ar y Ddaear a'r llall yn ymwneud â dod o hyd i drysor yn y Nefoedd.