Beth yw sgil meddal?
Sgil cyffredinol mae rhywun fel arfer yn ei ddysgu a’i ddatblygu ei hun
Treulio amser yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i bobl a’r amgylchedd am dâl cytunedig
Sgil mae’n hawdd ei ddatblygu
Pa un o’r canlynol sy’n sgil pobl?
Gwrando gweithredol
Dibynadwyedd
Blaengaredd
Beth yw cynllun datblygu?
Ffordd o asesu cost datblygu cynllun
Ffordd o asesu arbenigedd mewn sgiliau amrywiol
Ffordd o egluro’n ffurfiol sut i gael neu ddatblygu sgiliau
Beth yw rôl trysorydd?
Cyfathrebu â’r cyhoedd
Cadw llygad ar faterion ariannol
Cadeirio cyfarfodydd
Pa un o’r canlynol sy’n enghraifft o eithafion sy’n cael eu defnyddio yn Nangosydd Math Myers-Briggs?
Mewnblyg/allblyg
Hapus/trist
Synhwyro/ymchwilio
Sut gall Dangosydd Math Myers-Briggs wella’r broses o weithio mewn tîm?
Drwy roi cyfle i aelodau’r tîm ddod i ddeall ei gilydd yn well
Drwy roi cyfle i aelodau’r tîm benderfynu os nad ydynt eisiau gweithio gyda rhywun
Drwy roi cyfle i aelodau’r tîm drafod cymwysterau academaidd ei gilydd
Pa eiriau allweddol ddylet ti eu hystyried wrth wneud hunanwerthusiad?
Nod, argymhellion, canlyniadau, ffordd ymlaen
Nod, realiti, opsiynau, ffordd ymlaen
Nod, dibynadwyedd, opsiynau, ffordd allan
Beth yw rhanddeiliad?
Rhywun sydd â budd ariannol mewn busnes
Rhywun sy’n ymwneud â chwynion
Rhywun sydd â diddordeb neu ran yn rhywbeth
Beth yw myfyrdod?
Meddwl am ddigwyddiad, proses neu brofiad ac ystyried beth aeth yn dda, beth aeth ddim cystal a beth y byddai’n bosibl ei wella
Meddwl amdanat ti dy hun mewn ffordd feirniadol
Meddwl am ddigwyddiad, proses neu brofiad a sut i’w gynllunio’n llwyddiannus
Beth yw ystyr blaengaredd?
Pan mae rhywun yn ymddiried ynot ti i wneud rhywbeth
Gallu gwneud rhywbeth sy’n gwella sefyllfa, heb i rywun orfod gofyn i ti ei wneud, neu ddweud wrthyt am ei wneud
Gallu bod yn bwyllog bob amser