Beth ydyn ni’n galw’r ffrâm o gwmpas y math hwn o lwyfan?
Bwa prosceniwm
Ffrâm llun
Llwyfan llenni
Pa fath o lwyfan sy'n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer sioeau ffasiwn, oherwydd y ffordd mae wedi ei osod?
Theatr gylch
Llwyfan tramwy, gyda’r gynulleidfa ar y ddwy ochr
Platfform wedi ei godi uwchlaw lefel y llwyfan
Beth ydy nodwedd arbennig Theatr Promenâd?
Mae bob amser ar lan y môr
Mae’n cynnwys llawer o symud
Mae’r gynulleidfa’n symud o le i le yn hytrach na newid yr olygfa
Pa safleoedd llwyfan sydd bellaf o’r gynulleidfa ar lwyfan prosceniwm neu lwyfan gwth?
Cefn y llwyfan
Blaen y llwyfan
Ochr y llwyfan
Beth mae clirio person neu ddarn o ddodrefn wrth i ti symud yn ei olygu?
Gwneud yn siŵr nad wyt ti’n sefyll rhwng y person neu’r gwrthrych a’r gynulleidfa pan fyddi di’n gorffen symud
Cario’r person neu’r gwrthrych oddi ar y llwyfan
Cario’r person neu’r gwrthrych i ran arall o’r llwyfan
Beth ydy nodwedd arbennig llwyfan gogwydd?
Mae blaen y llwyfan yn uwch na’r cefn
Mae cefn y llwyfan yn uwch na’r blaen
Mae wedi ei wneud o baneli cul
Ai ystafell wag ydy stiwdio?
Gofod dylunio ydy stiwdio
Gall stiwdio fod yn ystafell ddosbarth gyda goleuadau a fflatiau neu gall fod yn fersiwn llai, agos atoch o theatr draddodiadol
Stiwdio yw unrhyw ystafell sydd â gofod ynddi
Pam mae’n bwysig mesur y llwyfan mewn gofod ymarfer?
Mae angen cael maint y set yn gywir
Mae angen i ti fesur y gofod ymarfer er mwyn blocio a symud yn iawn
Mae angen sicrhau nad wyt ti’n talu gormod am ofod sy’n cael ei rhentu
Pam mae theatr prosceniwm yn gweithio’n dda gyda llwyfannu traddodiadol?
Gall y gynulleidfa weld y cyfan os byddan nhw wedi talu am seddi da
Mae’r actorion ymhellach o’r llwyfan felly mae’n edrych yn well
Mae’n annog y syniad o bedwaredd wal a’r ymdeimlad ein bod yn edrych ar fywydau’r cymeriadau
Beth mae bod yn agored i’r gynulleidfa’n ei feddwl?
Gwaith byrfyfyr am dy deimladau gwirioneddol
Defnyddio osgo sy’n golygu bod y gynulleidfa’n gallu dy weld di, hyd yn oed os byddi di’n siarad â rhywun ar y llwyfan
Yr hanner awr cyn i’r sioe ddechrau