Sector, segment ac arc - Uwch yn unig test questions

1

Beth yw enw rhan y cylch sydd rhwng cord ac arc?

2

Beth yw hyd yr arc hon? Rho dy ateb i’r rhif cyfan agosaf.

Sector gydag ongl o 150° a radiws o 55 mm.

3

Beth yw hyd yr arc hon? Rho dy ateb yn gywir i un lle degol.

Sector gyda radiws o 15 cm. Yr ongl y tu allan i’r sector yw 60°.

4

Beth yw perimedr y sector hwn? Rho dy ateb i ddau le degol.

Sector gyda radiws o 60 mm a hyd yr arc yn 146.5 mm.

5

Beth yw perimedr y siâp hwn? Rho dy ateb i un lle degol.

Sector gydag ongl o 135° a radiws o 24 cm.

6

Beth yw arwynebedd y sector? Rho dy ateb i un lle degol.

Sector gydag ongl o 150° a radiws o 55 mm.

7

Beth yw arwynebedd y sector sydd wedi ei dywyllu? Rho dy ateb i un lle degol.

Sector gyda radiws o 15 cm. Yr ongl y tu allan i’r sector yw 60°.

8

Beth yw arwynebedd rhan allanol y siâp? Rho dy ateb i ddau le degol.

Sector gydag ongl o 95°. Mae gan y sector cyfan radiws o 10 cm. Mae radiws y rhan o’r sector sydd heb ei thywyllu’n 6 cm.

9

Beth yw arwynebedd y segment sydd wedi ei dywyllu? Rho dy ateb i ddau le degol.

Sector gydag ongl o 52° a radiws o 10 cm. Mae’r segment wedi ei dywyllu.

10

Mae’r diagram yn dangos triongl hafalochrog. P yw canolbwynt AB a Q yw canolbwynt AC. Canfydda arwynebedd y rhan mwyaf, gan roi dy ateb i un lle degol.

Triongl hafalochrog ABC lle mae P yn cynrychioli canolbwynt AB a Q yw canolbwynt AC. Mae pob ochr yn 6 cm.