Beth ddylai fod yn flaenoriaeth gyntaf wrth feddwl am waith llais?
Tôn y llais
Bod y gynulleidfa’n gallu clywed
Uchder
Beth ydy’r ffordd gywir o feddwl am gyflymder?
Cyflymder ydy siarad yn ddigon cyflym i fod yn gyffrous
Cyflymder ydy siarad ar gyflymder sy’n gwneud i’r llinellau argyhoeddi a swnio’n effeithiol
Cyflymder ydy siarad yn ddigon cyflym i greu argraff dda
Beth fyddet ti’n galw toriad byr mewn llinell neu weithred?
Bwlch
Saib
Oedi
Sut mae diffinio tôn llais?
Lliwio’r llais i olygu ystyr neu agwedd
Y ffordd rwyt ti’n dangos dicter
Y ffordd rwyt ti’n dangos tristwch
Beth mae acen yn ei datgelu am gymeriad?
Oedran
Yr ardal neu’r wlad mae’n dod ohoni
Ei faint corfforol
Beth ydyn ni'n ei ddefnyddio i wneud rhai geiriau unigol yn amlwg?
Cyflymdra
Acen
Pwyslais
Beth ydy tonyddiaeth?
Y ffordd mae dy lais yn codi a gostwng i gyfleu emosiwn ac ystyr
Pan fydd cymeriad yn holi llawer o gwestiynau
Pan fyddi di'n casglu ffeithiau’r ddrama
Beth ydy’r gwahaniaeth hanfodol rhwng siarad mewn drama lwyfan a drama radio?
Bydd y gynulleidfa wedi talu am eu seddau yn y theatr
Bydd angen i ti fod yn uwch ar y radio
Ar y radio does neb yn dy weld ond yn y theatr mae mynegiant yr wyneb a symudiadau’n gallu helpu gydag ystyr
Wrth ystyried traw, beth ydy eithafion ei ystod?
Tew a thenau
Uchel ac isel
Mawr a bach
Ydy uchder yn ymwneud â chael dy glywed yn unig?
Uchder ydy bod yn ddigon uchel i gael dy glywed
Mae uchder yn ymwneud â pha mor uchel neu dawel rwyt ti’n siarad, yn ôl gofynion y testun
Mae uchder yn ymwneud â siarad yn uchel er mwyn i dy lais gael ei glywed mewn awditoriwm mawr